Ceredigion Association of Voluntary Organisations
:: Hygyrchedd
:: English
:: Chwilio
:: Cysylltu a Ni

Adnoddauspacer

Swyddfaspacer

 

Adnoddau

Mae tri aelod o staff yn Nhîm Datblygu CAVO, sef Hazel Lloyd (Prif Swyddog Datblygu), David Fretwell (Swyddog Datblygu), ac Angharad Eynon (Swyddog Datblygu). Mae pob aelod o’r tîm yn canolbwyntio ar feysydd gwahanol gan gynnwys Neuaddau Pentref, Eglwysi a Chapeli, Plant, Grwpiau Chwarae, Celf, Undebau Credyd, Chwaraeon, Lleiafrifoedd Ethnig, Cymunedau yn Gyntaf, Pobl Ifanc, Lleoedd Chwaraeon, Tai, yr Henoed, Anabledd, Iechyd Meddwl, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Amcan 1, yr Iaith Gymraeg a’r Amgylchedd.

Mae’r Tîm Datblygu yn bodoli er mwyn darparu gwasanaethau craidd sy’n cynnwys rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i fudiadau gwirfoddol a mudiadau nid er mwyn elw. Mae hyn yn cynnwys rhoi gwybodaeth ynghylch cyllido, cychwyn grwp, dogfennau cyfreithiol, polis?au, materion ynglyn â gwaith a rheolaeth ac unrhyw wybodaeth a chefnogaeth arall.

Mae’r Swyddogion Datblygu yn gweithio mor agos â phosibl gyda’r grwpiau a’r mudiadau gwirfoddol, y mudiadau preifat a’r mudiadau cyhoeddus. O ganlyniad i hyn, mae gwybodaeth y Swyddogion yn allweddol ar gyfer cynnal safon uchel o wasanaeth y mae’r tîm yn ceisio ei ddarparu.

Cynrychiolir CAVO ar Grwp Swyddogion Datblygu Amcan 1 Ceredigion ar y cyd â gwasanaethau cynghori a gychwynnwyd i atgyfnerthu adnoddau presennol er mwyn gwella’r cyngor a roddir, a chefnogi datblygiad mentrau newydd. Mae CAVO hefyd yn aelod o Grwp Llywio Cymunedau yn Gyntaf Pentrefi yn yr Ucheldir o gwmpas Tregaron a Bwrdd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Gorllewin Aberystwyth a Phenparcau.
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Mae’r Tîm Datblygu yn chwilio’n gyson am ffyrdd newydd o ddarparu gwybodaeth a chymorth i grwpiau ar faterion megis ariannu a datblygu cynllun. Mae’r Tîm eisoes yn darparu gwasanaeth allanol i grwpiau nid er mwy elw ledled y Sir gan gynnwys cwrdd â Phwyllgorau amrywiol yn ystod y dydd ac weithiau yn yr hwyr. Gwneir pob ymdrech i gryfhau’r cysylltiadiau gyda gwasanaethau cefnogi eraill, ac o ganlyniad sicrhau bod y sector gwirfoddol o fewn y Sir yn derbyn y gefnogaeth gynhwysfawr y maent yn ei haeddu.

Taflen Wybodaeth

clicwch ar y linc camlynol i lawr lwytho taflen gwybodaeth

1.Dechrau

1.1 Y camau cyntaf - o syniadau i weithredu
1.2 Cynnwys y gymuned
1.3 Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth
1.4 Cynllunio eich gwaith
1.5 Dewis strwythurau cyfreithiol
1.6 Statws elusennol
1.7 Lle i fynd am gymorth

2.Rheoli eich sefydliad

2.1 Datblygu cynllun strategol
2.2 Y cynllun busnes
2.3 Cyfarfodydd effeithiol
2.4 Cyfarfodydd cyffredinol blynyddol effeithiol
2.5 Ansawdd
2.6 Monitro a gwerthuso
2.7 Rheoli risg
2.8 Iechyd a diogelwch
2.9 Cyfle cyfartal
2.10 Yr iaith Gymraeg  cyd-destun cyfreithiol
2.11 Yswiriant
2.12 Diogelu data

4.Gwirfoddolwyr

4.1 Meddwl am wirfoddoli
4.2 Datblygu strategaeth gwirfoddolwyr
4.3 Polisi gwirfoddoli enghreifftiol
4.4 Recriwtio, dethol a sefydlu gwirfoddolwyr
4.5 Recriwtio gwirfoddolwyr sy'n siarad Cymraeg
4.6 Amrywiaeth mewn gwirfoddoli
4.7 Sut i gadw gwirfoddolwyr
4.8 Cadw gwirfoddolwyr yn ddiogel
4.9 Gwirfoddoli i weithio gydag oedolion a phlant syn agored i niwed
4.10 Gwiriadau cofnodion troseddol
4.11 Gwirfoddolwyr a'r gyfraith
4.12 Gwirfoddolwyr a budd-daliadau lles
4.13 Treuliau gwirfoddolwyr
4.14 Buddsoddi mewn gwirfoddolwyr
4.15 Sut i weithio gyda gwirfoddolwyr anodd eu lleoli

7. Dod o hyd i arian a’i gael

7.1 Datblygu strategaeth codi arian
7.2 Grantiau  addas ar gyfer ariannu
7.3 Gwneud ceisiadau i gyrff ariannu
7.4 Ffynonellau cyllid
7.4.1 Grantiau bach
7.4.2 Cyllid loteri
7.4.3 Ymddiriedolaethau a sefydliadau syn berthnasol i Gymru
7.4.4 Grantiau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
7.4.7 Ffynonellau cyllid ar gyfer prosiectau iechyd a gofal cymdeithasol
7.4.10 Ffynonellau cyllid ar gyfer prosiectau amgylcheddol
7.4.11 Nawdd ar gyfer adeiladau cymunedol
7.5 Benthyciadau
7.6.1 Codi arian - digwyddiadau
7.8 Masnachu
7.10 Dulliau o roi arian syn effeithiol o ran treth
7.11 Ariannu corfforaethol


8.Rheoli arian

8.1 Sefydlu system ariannol
8.2 Sefydlu cyllideb
8.3 Adennill y gost lawn
8.4 Monitro gwariant a chyllideb
8.5 Rheolaeth gyllidol
8.6 Cyfrifon ac archwiliad blynyddol
8.7 Treth ar werth
8.8 Cyflogres
8.9 Cronfa wrth gefn
8.10 Pensiynau
8.11 Osgoi twyll


10.Hyrwyddo a marchnata

10.1 Cynllun cyathrebu a marchnata
10.2 Creu defnyddiau marchnata a chyhoeddusrwyrdd effeithiol
10.3 Paratoi cylchlythyrau
10.4 Gweithio gyda'r cyfryngau
10.5 Datganiadau cyfryngau effeithiol
10.6 Yr adroddiad blynyddol
10.7 Datblygu a chynnal gwefan
10.8 Fformat a iaith gyraeddadwy

Cysylltiadau Defnyddiol

COMISIWN ELUSENNOL www.charity-commission.gov.uk
AMCAN UN www.wefo.wales.gov.uk
CYMUNEDAU YN GYNTAF www.communitiesfirst.info
CYNGOR GWEITHREDU GWIRFODDOL CYMRU www.wcva.org.uk
ADRAN MASNACH A DIWYDIANT www.dti.gov.uk
CYFLEOEDD CYFARTAL www.eoc.org.uk
TAW www.hmce.gov.uk
CYLLID Y WLAD www.inlandrevrnue.gov.uk
COMISIWN HAWLIAUR ANABL www.drc-gb.org

Cartref | Gwirfoddoli | Partneriaethau | Hyfforddiant | Ariannu | Cludiant | Adnoddau | Iechyd
  © 2004 Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion