CYNLLUN
GRANTIAU BYCHAN CAVO
NODIADAU
Grant Gwelliant a Mentergarwch
CAVO
Enterprise and Improvement Grant
CEFNDIR
Sefydlwyd Grant Gwelliant a Mentergarwch CAVO, a ariannwyd
gan Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol Llywodraeth
Cynulliad Cymru, i gefnogi gweithgaredd cymunedol yng Ngheredigion.
AMCAN
Prif amcan Grant Gwelliant a Mentergarwch CAVO yw i gefnogi
grwpiau lleol i sefydlu a datblygu amrywiaeth o brosiectau
i greu cymunedau cryfach.
PA
BROSIECTAU FYDD YN CAEL EU CEFNOGI?
Yr UNIG ceisiadau fydd yn cael ei hystyried fydd prosiectau
sy’n cwrdd ac un neu ragor o’r blaenoriaethau
canlynol:
1. Cynhyrchu incwm
2. Cynyddu medr
3. Cefnogi menter cymdeithasol
4. Cyflwyno safonau ansawdd
Dylia
eich prosiect hefyd gynnwys o leiaf un o’r canlynol:
• Sicrhau mynediad cyfartal i bobl anabl;
• Gweithgareddau sydd o fudd i’r amgylchedd;
• Datblygiad o bolisïau ac arferion amgylcheddol
a chyfleon cyfartal;
• Sicrhau fod pob aelod o’r gymuned yn cael eu
cynnwys;
• Gwella’r ddarpariaeth a’r dealltwriaeth
o dechnoleg gwybodaeth;
• Cydnabod a dathlu diwylliant a threftadaeth a chefnogi
datblygiad cymunedau dwyieithog, aml-iaith ac aml ddiwylliannol;
• Datblygu medr drwy hyfforddiant;
• Gwella lles y gymuned.
Bydd
costau cyfalaf a refeniw yn cael eu hystyried.
PWY
ALL WNEUD CAIS?
Fe all eich grwp wneud cais am arian o Grant Gwelliant a Mentergarwch
CAVO os:
• ydych yn grwp di-elw;
• oes gennych set o reolau neu gyfansoddiad;
• oes gennych gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn
enw eich grwp sydd angen o leiaf 2 lofnod;
• ydych yn gweithio yng Ngheredigion, neu os ydych yn
seiliedig tu allan i’r ardal, mae’n rhaid i’ch
gweithgareddau fod o fudd uniongyrchol i Geredigion.
Yn
ystod y broses o asesu eich cais, fydd y meini prawf canlynol
yn cael ei ystyried:
• a yw eich prosiect yn cyrraedd un o’r pedwar
prif feini prawf
• sut mae eich grwp wedi ei sefydlu a sut mae’n
cael ei reoli;
• os yw eich cais yn cefnogi gweithgaredd cymunedol;
• pwy fydd yn elwa o’r grant;
• sut mae’r prosiect wedi cael ei ariannu;
• a’r angen am eich y prosiect.
AM
FAINT O ARIAN ALLWN NI WNEUD CAIS?
Bydd ceisiadau hyd at gyfanswm o £3,000 yn cael eu hystyried
ar gyfer nawdd unigryw.
Mae’n rhaid gwario unrhyw grant o fewn 12 mis.
Arian
Cyfatebol
Gall 100% o gost cyfanswm y prosiect fod yn gymwys am gyllid.
Nid yw arian cyfatebol yn ofynnol, er hynny dangosir diddordeb
arbennig ym mhrosiectau sydd yn defnyddio grant CAVO i sicrhau
grantiau ychwanegol.
Os ydych am ddefnyddio Grant Gwelliant a Mentergarwch CAVO
fel arian cyfatebol, bydd rhaid i’r pecyn ariannol fod
mewn lle o fewn 3 mis o ddyfarniad y grant.
GWEINYDDU’R
CAIS
Gall ceisiadau cael eu danfon i CAVO unrhyw amser, ac mi fydd
penderfyniadau yn cael ei gwneud o fewn 3 mis o dderbyn eich
cais.
Dyddiadau
cau y cynllun fydd:
31/10/06 31/01/07 31/03/07 30/06/07 30/09/07 31/12/07 31/03/08
Gan fod cyllid yn brin, ni fydd pob cais yn cael ei gefnogi
ac fe fydd rhaid blaenoriaethu ceisiadau. Bydd pob penderfyniad
yn derfynol ac ar ddyfarniad y pwyllgor grantiau.
GWYBODAETH
PELLACH
Am ragor o wybodaeth ar y broses cais, cysylltwch ag aelod
o’r Tîm Datblygu CAVO;
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO),
Bryndulais, 67, Stryd y Bont,
Llambed,
Ceredigion,
SA48 7AB.
Ffôn: 01570 423232
E-bost: gen@cavo.org.uk
Rhif ffon: 01570 423 232
e-bost: hazel@cavo.org.uk or david@cavo.org.uk or angharad@cavo.org.uk
|