| Cludiant
Cymunedol - Beth ydyw?
Cludiant Cymunedol yw cludiant sydd yn cael
ei datblygu er mwyn cwrdd ag anghenion cymunedau lle nad yw'r anghenion
hynny yn cael eu diwallu yn ddigonol gan gludiant cyhoeddus neu
fasnachol.
Mae cynlluniau Cludiant Cymunedol yn fynych
yn cael eu datblygu a'u rheoli gan grwpiau cymunedol a gwirfoddol
a gallant gwrdd ag anghenion y gymuned gyfan neu grwpiau penodol
o fewn cymuned.
Mae Cludiant Cymunedol yn fecanwaith delfrydol
ar gyfer delio â dieithrwch cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig.
Mae'n gymorth i fyw yn annibynnol i'r rhai hynny sydd â phroblem
gyda symudoledd, ac mae'n darparu gwasanaeth 'drws i ddrws' ar gyfer
y rhai hynny a fyddai'n ei chael yn anodd i gael gwasanaethau oherwydd
diffyg darpariaeth cludiant cyhoeddus a masnachol, neu sydd heb
fod yn berchen ar gar. Gan felly alluogi'r rhai hynny a fyddai fel
arall yn teimlo eu bod ar yr ymylon, i gael bywyd llawn ac actif.
Mae gan Geredigion gynlluniau Cludiant Cymunedol
llwyddiannus iawn yn weithredol gan gynnwys:-
-
Cynlluniau Ceir
Gwirfoddol, (a weithredir gan WRVS,y Groes Goch,Cyngor yr Henoed,
Ambiwlans/Ysbyty )
-
Cynllun Deialu
Reid , (a weithredir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol)
-
Bysiau Mini Cymunedol
, (a weithredir gan y Grwpiau Gwirfoddol Lleol, y Gwasanaethau
Cymdeithasol).
Mae'r cynlluniau hyn
yn ychwanegu at wasanaethau cludiant cyhoeddus a masnachol a gweithredir
hwy drwy 'gynllun aelodaeth', ar sail nid er mwyn elw.
Cludiant Cymunedol
- Pam fod angen?
Cydnabyddir bod unigrwydd
gwledig yn broblem fawr. Cludiant yw'r ateb i liniaru nifer o broblemau
a wynebir gan gymuned wledig, yn rhai iechyd a chymdeithasol, gan
ofalu am bob oedran a statws.
Mae gan Gynghorau Cymuned
dasg sydd ymron yn amhosibl wrth geisio darparu cludiant sydd yn
cwrdd ag anghenion pob aelod o'r gymuned, ac mae operaduron masnachol
yn ceisio llenwi rhai o'r bylchau hyn yn y ddarpariaeth.
Fodd bynnag mae'n eglur
bod yna nifer o bobl nad ydynt yn medru defnyddio'r dulliau hyn
o gludiant, naill ai oherwydd cost, problemau symudoledd, pellter
o arosfannau bws, amseriad y bysiau a llwybrau'r bysiau. Bu gwasanaethau
neu gynlluniau Cludiant Cyhoeddus y gellir eu defnyddio'n hawdd
ac sydd yn fforddadwy, sydd yn mynd i fannau y mae pobl am fynd
iddynt, ar adegau y mae pobl eisiau, a all fod o 'ddrws i ddrws'
a gydag esgort os bydd angen, yn fodelau llwyddiannus mewn sawl
man yng Nghymru.
Cynlluniau
Ceir Cymunedol - Beth ydyn nhw?
Mae Cynlluniau Ceir
Cymunedol yng Ngheredigion yn cael eu gweithredu neu eu rheoli gan
y W.R.V.S, Y Groes Goch,Cyngor yr Henoed, a'r Gwasanaeth Ambiwlans.
Mae'r cynllun yn recriwtio
gyrwyr gwirfoddol sydd yn defnyddio eu ceir eu hunain er mwyn darparu
cludiant o ddrws i ddrws ar gyfer pobl sydd yn ei chael yn anodd
neu'n amhosibl i wneud siwrneiau penodol.
Mae mwyafrif y siwrneiau
yn gysylltiedig â iechyd, fel arfer i'r ysbyty, optegydd,
deintydd neu at y meddyg.
Telir costau i yrwyr
er mwyn eu digolledu am y milltiroedd. Gofynnir i ddefnyddwyr gwrdd
â rhai o'r costau, ond mae angen cymhorthdal ychwanegol i
gwrdd â'r costau llawn.
Deialu Reid
- Beth ydyw ?
Mae Deialu Reid wedi
ei leoli yn y gymuned ac yn cael ei redeg gan bwyllgor rheoli gwirfoddol.
Bysiau mini neu'gludwyr pobl' yw'r cerbydau a ddefnyddir fel arfer
ac mae'r mwyafrif o'r rhain yn medru cael eu defnyddio gan pobl
mewn cadeiriau olwyn neu bobl sydd yn cael trafferthion gyda grisiau.
Ar gyfartaledd maent yn darparu gwasanaeth ar gyfer ardal 8-9 milltir
o'r dref ganolog.
Cynlluniau aelodaeth
yw'r rhain ac mae aelodaeth yn agored i bawb yn ardal y cynllun
sydd yn ei chael yn anodd oherwydd henaint, anabledd neu gyflwr
meddyliol neu gorfforol i ddefnyddio dulliau cludiant sydd yn bodoli
eisoes. Mae tâl aelodaeth flynyddol.
Mae aelodau yn bwcio'r
siwrneiau ymlaen llaw a chodir tâl ar raddfa sydd yn amrywio
yn ôl y pellter a deithir. Bydd y gwasanaeth yn mynd â'r
aelod o ddrws i ddrws.
Mae'r cynlluniau yn
defnyddio staff cyflogedig gwirfoddolwyr er mwyn darparu'r gwasanaeth
a rhoddir hyfforddiant arbennig i bob gyrrwr.
Mae cyllid ar gyfer
y cynlluniau yn dod o amrywiaeth o ffynonellau. Mae rhai Cynghorau
Sir yn cyfrannu 'cyllid craidd' a ffynonellau cyllid eraill sydd
yn cynnwys y Gronfa Gymunedol, y Cynulliad Cenedlaethol, Ymddiriedolaethau
Elusennol a chodi arian
yn lleol.
e-bost:- alan@cavo.org.uk
|