| Cwestiynau
Cyffredin
Beth yw gwirfoddoli?
Mae nifer o ddiffiniadau ynglyn â gwirfoddoli.
Yr un a ddefnyddiaf gan amlaf yw:
“…Unrhyw weithgaredd sy’n
golygu treulio amser, yn ddi-dâl, yn gwneud rhywbeth sy’n
anelu at fod o fudd i rywun (unigolion neu grwpiau yn ogystal â
pherthnasau agos) neu o fudd i’r amgylchedd…”
(Arolwg Cenedlaethol o Wirfoddoli 1997)
Ydw i’n cael fy nhalu am ymuno
â’r rhaglen?
Ethos y rhaglen yw gwirfoddoli, felly nid
ydych yn derbyn tâl am gymryd rhan. Serch hynny, cewch ad-daliad
am eich treuliau megis costau teithio i ac o’ch lleoliad,
peth costau gofal plant ac weithiau costau cinio a lluniaeth,
Yn
ôl i’r brig
Sut allaf gael gwybod am gyfleoedd
gwirfoddoli i bobl ifanc yn fy ardal?
Gallwch edrych am gyfleoedd gwirfoddoli ieuenctid
yn eich ardal yn Gwirfoddoli
Cymru. Mae’r wefan hon wedi ei diweddaru ac mae arni bob
cyfle gwirfoddol i chi yn eich sir ac yng Nghymru gyfan.
Sut allaf gysylltu â’r
gweithiwr Gwirfoddoli lleol neu ddarparwr Gwirfoddolwyr y Mileniwm?
Gallwch gael manylion eich Gweithwyr Gwirfoddoli
lleol a’r darparwyr Gwirfoddolwyr y Mileniwm ar wefan WCVA:
Beth
sydd yn eich ardal chi?
Neu gallwch gysylltu â mi yn CAVO ar
laura@cavo.org.uk neu radffôn
0800 3280 940
Yn
ôl i’r brig
Dechreuais fy ngwobr yn Lloegr ond
rwy nawr yn symud i Brifysgol Cymru a hoffwn barhau gyda Gwirfoddolwyr
y Mileniwm. Ydy fy oriau hyd yn hyn i gyfrif?
Ydyn, yn bendant. Mae Gwirfoddolwyr Mileniwm
yn rhaglen ledled y DU a luniwyd fel eich bod yn gallu ei chwblhau
unrhyw le yn y DU. Gwnewch yn siwr eich bod yn dod â chopïau
o’ch amserlenni a’ch tystysgrifau wedi eu llofnodi pan
fyddwch yn cofrestru gyda mudiad newydd.
Yn
ôl i’r brig
Mae 200 awr yn llawer mewn 12 mis,
ydy hyn yn bosib?
Efallai bod 200 awr yn swnio’n hynod
anodd, ond mae’n rhwydd ei gyflawni. Mae dros 2000 o bobl
ifanc yng Nghymru wedi ei gyflawni eisoes. O fewn y rhaglen, cymerir
i ystyriaeth bopeth a wnewch ynghylch gwirfoddoli, felly bydd y
teithio, y cynllunio a’r hyfforddiant hefyd yn cael eu cyfrif
yn eich oriau.
Os ydych yn gwirfoddoli eisoes wrth ymuno
â’r rhaglen, gallwch gyfrif hyd at 50 awr a wirfoddolwyd
yn y 3 mis diwethaf, ar yr amod eu bod yn cyd-fynd ag amcanion y
rhaglen. Felly gallech fod hanner ffordd i’r dystysgrif 100
awr pan gofrestrwch!
Rwy’n mynd tramor yn yr haf,
a alla i wneud Gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm tra byddaf i ffwrdd?
Mae gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm ledled
y DU felly mae’n rhaid i unrhyw wirfoddoli a wnewch fod o
fewn y DU, am hynny dyw gwirfoddoli dramor ddim yn gymwys. Ond gall
unrhyw gynllunio, hyfforddi neu godi arian a wnewch yn y DU cyn
mynd dramor gael ei gyfrif.
Yn
ôl i’r brig
Rwy’n 24 oed ar hyn o bryd,
ond byddaf yn 25 mewn cwpl o fisoedd. A yw’n rhy hwyr i ymuno
â’r rhaglen?
Cyhyd â’ch bod yn 24 oed pan
gofrestrwch, ac yn gallu cwblhau’r rhaglen o fewn 12 mis,
rydych yn gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen.
Mae arnaf angen gwirfoddolwyr i helpu
gyda’r prosiect. A all Gwirfoddolwyr Ieuenctid fy helpu i’w
recriwtio?
I hysbysebu cyfleoedd gyda ni, byddai angen
i chi gofrestru eich mudiad a’r cyfle gyda ni yn y Ganolfan
Gwirfoddoli. Pan fyddwch wedi cofrestru, gallwch roi eich cyfle
ar wefan Gwirfoddolwyr Cymru: Gwirfoddoli
Cymru.
Yn
ôl i’r brig
|