Ceredigion Association of Voluntary Organisations
:: Hygyrchedd
:: English
:: Chwilio
:: Cysylltu a Ni

Gwirfoddolispacer
Cyfarwyddyd Oedolionspacer
Cymdeithasspacer
Gwasanaethau Cymdeithasolspacer
Ieuenctid Gwirfoddolspacer
Cysylltwchspacer

 

Cymdeithas

Mae Biwro Gwirfoddoli CAVO yn cynnig cofrestru rhad i fudiadau di-elw neu elusennol, neu grwpiau sy'n recriwtio gwirfoddolwyr.  Mae mudiadau cofrestredig yn derbyn gwybodaeth ar newyddion diweddaraf y sector gwirfoddol, yn ogystal â gwybodaeth a chyngor ar ddatblygu polisïau gwirfoddoli, datblygu ymarfer da tra'n gweithio gyda gwirfoddolwyr, a hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli yn rhad mewn gwahanol fathau o gyfryngau.

Mae Biwro Gwirfoddoli CAVO yn annog mudiadau cofrestredig i ddefnyddio ymarfer da pan fônt yn gweithio gyda gwirfoddolwyr.  Fe anogir mudiadau hefyd i ymuno â Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr Gorllewin Cymru.  Mae'r rhwydwaith cefnogol hwn yn rhoi cyfle i drefnwyr gwirfoddolwyr ddod o hyd i wybodaeth a hyfforddiant ar faterion sy'n berthnasol i reoli gwirfoddolwyr, yn ogystal â rhannu profiadau gyda threfnwyr eraill.

Cartref | Gwirfoddoli | Partneriaethau | Hyfforddiant | Ariannu | Cludiant | Adnoddau | Cynnal
© 2004 Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion