| Gwirfoddoli
Ieuenctid
16-25

Helo!
Croeso i dudalen gwirfoddoli
Pobl Ifanc ar wefan CAVO.
Yn gyntaf gadewch imi gyflwyno fy hun.
Fy enw yw Laura Rich, eich Gweithiwr Gwirfoddoli Ieuenctid. Mae’r
ganolfan yn CAVO, Llanbedr Pont Steffan, ond rwy’n gweithio
drwy Geredigion. Cyllidir y swydd gan y Comisiwn Russell, a’r
nod yw “darparu cam ymlaen i wirfoddoli ieuenctid”.
Gobeithir annog, denu ac ysbrydoli pobl ifanc rhwng 16-25 oed i
gymryd rhan mewn gweithgaredd gwirfoddoli ledled y sir.
Byddaf hefyd yn diweddaru’r
wefan yn rheolaidd gyda newyddion am gynlluniau a chyfleoedd gwirfoddoli,
felly edrychwch arni’n gyson.
Yn ogystal gwelwch nifer o ddolennau
cyswllt drwy’r safle fydd yn eich helpu i ddeall Gwirfoddoli
a’r Comisiwn Russell.
Os hoffech gysylltu â
mi, mae croeso ichi wneud hynny:
Laura Rich
Gweithiwr Gwirfoddoli Ieuenctid CAVO
EBOST: laura@CAVO.org.uk
Rhadffôn: 0800 3280940
Ffôn: 01570 423232
Edrychaf ymlaen at glywed gennych
yn fuan!
Laura
Ynoli'rbrig
Ydych chi rhwng 16-25 oed?
Os oes gennych ddiddordeb mewn
dod yn wirfoddolwr ac rydych rhwng 16-25 oed, yna rwy ar gael i
drafod gwirfoddoli gyda chi. O fewn Ceredigion mae amrywiaeth eang
o gyfleoedd addas i bobl ifanc sy’n frwdfrydig o blaid gwirfoddoli.
Gall y rhain amrywio o chwaraeon i gadwraeth amgylcheddol, gwaith
cyfeillio gyda mudiadau neu hyd yn oed gweithio ym maes gofal anifeiliaid.
Am ragor o wybodaeth ynghylch
y gweithgareddau gwirfoddoli sydd ar gael i chi, ewch i wefan Gwirfoddoli
Cymru sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd.
Neu gellir cysylltu â
mi i drefnu cyfarfod anffurfiol i drafod yn fwy manwl y math o wirfoddoli
a fyddai’n addas i chi, gan ddewis y cyfleoedd sy’n
gweddu i’ch sgiliau, priodoleddau, diddordebau ac ymrwymiadau.
Os hoffech bori, ewch i http://www.gwirfoddolicymru.net/
Yn fy swydd, rwy hefyd yn awyddus
i gydnabod ymroddiad pobl ifanc i weithgareddau gwirfoddol. Gallaf
roi gwybodaeth ichi ynglyn â sut y gallwch ennill y gydnabyddiaeth
hon drwy gynllun o’r enw Gwirfoddolwyr
y Mileniwm. Mae rhagor o wybodaeth am Wirfoddolwyr y Mileniwm
ar y safle hwn.
Yn
ôl i’r brig
|