| 
Pobl Ifanc
a
GM
Beth yw’r rhaglen GM?
Cynllun cenedlaethol achrededig ar gyfer
pob gwirfoddolwr ifanc rhwng 16-25 oed
• Mae’n cydnabod yr ymrwymiad
parhaol o 200 awr
o Gyda gwobrau cydnabyddiaeth am 50 a 100 o oriau
o Wedi 200 awr derbynnir Gwobr o Ragoriaeth gan Brif Weinidog Cynulliad
Cenedlaethol Cymru
• Fe’i cydnabyddir ledled y DU gan gyflogwyr a sefydliadau
addysgol
• Mae 71% o Wirfoddolwyr y Mileniwm wedi nodi eu profiad ar
eu CV
• Mewn arolwg diweddar dywedodd 100% o Wirfoddolwyr y Mileniwm
y byddent yn argymell y rhaglen i’w ffrindiau.
Cliciwch y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan
Gwirfoddolwyr y Mileniwm
Gwirfoddolwyr
y Mileniwm
Nod y rhaglen yw:
• Gwneud argraff bositif yn eu cymunedau
lleol
• Cynnig cyfleoedd gwirfoddoli heriol a diddorol i bobl ifanc
• Galluogi pobl ifanc i gael rhagor o wybodaeth, i ennill
sgiliau newydd a datblygu’n bersonol
• Cynyddu cydnabyddiaeth o wirfoddoli gan bobl ifanc yn y
gymuned
• Gosod safon ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli yng Nghymru
• Annog perchnogaeth o’r rhaglen gan bobl ifanc.
Am gyfleoedd gwirfoddoli yng Ngheredigion,
cliciwch y ddolen gyswllt isod.
Cyfleoedd
Gwirfoddoli
Yn ôl i'r brig
Mudiadau
a derbyn Pobl Ifanc
- Os yw eich mudiad yn ystyried derbyn pobl
ifanc yn wirfoddolwyr, efallai hoffech gysylltu â’r
tîm yn CAVO i wybod beth yw’r cam nesaf i’ch mudiad
ei gymryd.
Efallai y byddai hefyd o fudd
ichi edrych ar wefan y WCVA
a’r polisïau perthnasol ynghylch derbyn gwirfoddolwyr
a gwirfoddolwyr ifanc.

GM yn eich Mudiad
- Rhaglen gwirfoddoli ledled
y DU i rai rhwng 16-24 oed yw Gwirfoddolwyr y Mileniwm.
Os yw eich mudiad wedi ymrwymo i bobl ifanc
fod yn rhan, gwnewch gais heddiw!
Statws Cyllido
Ydy eich mudiad yn edrych am
grant i’ch helpu gyda chostau gwirfoddoli?
- Ydy eich mudiad yn gweithio gyda gwirfoddolwyr
16-25 oed?
- A allwch chi gynnig y cyfle i berson ifanc wneud ymrwymiad parhaol
i wirfoddoli am 200 awr neu ragor dros gyfnod o 12 mis?
- Ydy eich cyfleoedd gwirfoddoli o fudd i’r gymuned leol?
- Os taw “Ydyn” yw’r ateb i’r cwestiynau
hyn, gallech fod yn gymwys ar gyfer gwneud cais am grant Gwirfoddolwyr
y Mileniwm
Gallwch dderbyn rhwng £50
a £8000 tuag at gostau gwirfoddolwyr.
Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r
grant cliciwch ar y ddolen gyswllt hon: GM
Grantiau
Yn
ôl i’r brig
Statws Heb-Gyllid
- A oes cyfleoedd i bobl ifanc gan eich mudiad
eisoes?
- A ydy’r cyfleoedd hyn yn caniatáu i Wirfoddolwyr
y Mileniwm gwblhau’r wobr 200 awr?
- Os ydy eich mudiad angen cyllid ychwanegol i wneud hynny, gallwch
wneud cais am y Statws Heb-Gyllid Gwirfoddolwyr y Mileniwm.
- Bydd hyn yn eich galluogi i drefnu’r rhaglen Gwirfoddolwyr
y Mileniwm o fewn eich mudiad heb dderbyn grant.
- Mae ceisiadau Heb-Gyllid mewn bod, ac fe’u hasesir pan gânt
eu derbyn.
Am ragor o wybodaeth ac i lawr-lwytho ffurflen
gais ewch i wefan y WCVA: GM Satws
Heb-Gyllid
Am ragor o wybodaeth ynghylch Gwirfoddolwyr y Mileniwm,
cysyllter â mi:
Laura Rich Youth Volunteer Adviser
01570 423232
laura@CAVO.org.uk
|