| Cyngor
gwirfoddoli sirol (CVC) yn gofalu am Geredigion yw CAVO. Ein nod
yw hybu, cefnogi a chydgysylltu gwaith y sector gwirfoddol yng Ngheredigion,
bod yn ddolen gyswllt rhwng y sector gwirfoddol a’r sector
statudol, a hyrwyddo ac annog arfer da.
-
Manylion
nodau
?I ddatblygu a hybu gwaith CAVO drwy’r sir
? I gefnogi mudiadau gwirfoddol ac annog arfer da
? I gefnogi a hybu arfer da wrth wirfoddoli
? I annog cydweithio a chydweithrediad rhwng sefydliadau gwirfoddol
? I annog perthynas effeithiol a phartneriaeth rhwng mudiadau
y sector gwirfoddol, asiantaethau statudol a’r sector
preifat
? I ddatblygu a chefnogi mentrau newydd i gwrdd ag anghenion
? I alluogi ac annog cymunedau lleol i gymryd rhan mewn datblygu
? I ddynodi, dehongli a mynegi pryderon y sector gwirfoddol.
Y
gwasanaethau sydd ar gael
? Gwasanaeth am ddim i roi cyngor am bethau fel ariannu a sut i
sefydlu a gweinyddu mudiad cymunedol neu wirfoddol
? Gwasanaeth Biwro Gwirfoddoli – sy’n cynnig gwybodaeth,
cyngor, a chefnogaeth am faterion sy’n ymwneud â gwirfoddoli,
i unigolion a mudiadau
? Gweithio mewn partneriaeth – cynrychioliad ar Bartneriaethau
a lledaeni gwybodaeth am bartneriaeth sydd ar gael yn y sir
? Hyfforddiant - dynodi’r anghenion a darparu hyfforddiant
i’r sector gwirfoddol
? Cynllun Cludiant yn y Gymuned – gweithio mewn partneriaeth
i sefydlu a datblygu cludiant cymunedol yng Ngheredigion
? Gostyngiad pris i gyrsiau hyfforddi, gwasanaethau swyddfa a hurio
ystafell i aelodau CAVO.
Manylion
meini prawf dod yn aelod
Mae aelodaeth ar agor i bob grwp gwirfoddol a chymunedol sy’n
gweithio yng Ngheredigion ac yn cyflenwi meini prawf cymhwyster.
Mae’n bosibl i gymdeithasau sydd heb fod yn gymwys i aelodaeth
lawn fod yn aelodau cyfrannog ne aeloda cyswllt . Ceir rhagor o
wybodaeth am hyn ar y ddalen aelodaeth.
Hygyrchedd
Cyflwynir y wybodaeth a gynhyrchir gan CAVO yn Gymraeg a Saesneg
os yn bosibl. Gwneir ymdrech i gyfieithu yr hyn a dderbyniwn mewn
un iaith. Os na fydd hyn yn bosibl neu’n gymwys, bydd y wybodaeth
yn cael ei atgynhyrchu yn yr iaith wreiddiol.
Mae swyddfa CAVO o
fewn cyrraedd pawb sy’n cael trafferth i symud o gwmpas.
Gellir cael gwybodaeth mewn print bras neu Braille os gofynnir amdano.
Mae system ddolen i’r rhai hynny sy’n defnyddio taclau
clywed ar gael yn ein hystafelloedd hyfforddi.
|