|

£5m i Gymunedau Mentrus
Caiff bron i £5m ei fuddsoddi i helpu mudiadau cymunedol ddatblygu i fod yn
Caiff bron i £5m ei fuddsoddi i helpu mudiadau cymunedol ddatblygu i fod yn fentrau lleol cynaliadwy yn dilyn hwb ariannol gan yr UE, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Raglenni Ewropeaidd, Alun Davies, yr wythnos ddiwethaf.
Bydd y prosiect Cymunedau Mentrus yn ymgysylltu mudiadau ac unigolion ledled Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, gan gynnig cyngor a chefnogaeth i’r rheini sy’n dymuno cael gwybodaeth ynghylch sut i redeg menter leol gynaliadwy.
Bydd unigolion a mudiadau sydd syniadau busnes dichonadwy yn cael arbenigedd busnes ac arbenigedd ariannol wedi’i deilwra i’w helpu i ddatblygu ffrydiau incwm newydd a meithrin dyfodol sy’n fwy ariannol gynaliadwy. Bydd y manteision yn cynnwys creu mentrau cynaliadwy newydd yn cynnig nwyddau a gwasanaethau a chreu swyddi ar gyfer eu cymunedau lleol.
Ymhlith y gweithgareddau sy’n debygol o gael eu cynnal mae mentrau ynni adnewyddadwy, hamdden a thwristiaeth, yn ogystal darpariaeth gofal plant a hyfforddiant.
Gyda chymorth o £3.5m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, caiff y prosiect ei reoli gan WCVA a’i gyflenwi’n lleol drwy rwydwaith Cymru o gynghorau gwirfoddol sirol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies: “Bydd y buddsoddiad hwn gan yr UE yn helpu i ddiwallu anghenion cymunedau lleol drwy gefnogi’r broses o greu a thwf mentrau cynaliadwy sy’n gallu darparu gwasanaethau buddiol, creu cyfleoedd cyflogaeth a chryfhau economïau lleol.”
Yn l Prif Weithredwr WCVA Graham Benfield: “Bydd prosiect Cymunedau Mentrus yn darparu gwasanaethau cymorth mewn amrywiaeth o feysydd yn cynnwys cyllid, gwelliant sefydliadol a datblygu gwirfoddolwyr.
“Yn ymarferol, gallai hyn olygu cyngor ar strwythurau sefydliadol a chynlluniau busnes, neu weithredu systemau sicrwydd ansawdd ac arferion cyflogi da.
“Bydd hefyd yn helpu mudiadau cymunedol nodi ffyrdd newydd o greu incwm a chyfleoedd newydd i weithio gyda’r sector preifat a’r sector cyhoeddus.
“Gall unrhyw fudiad trydydd sector yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd sydd syniad sut i greu incwm neu a fyddai’n hoffi datblygu eu menter bresennol elwa o’r prosiect hwn.”
Am ragor o wybodaeth am y prosiect cymunedau mentrus yng Ngheredigion cysylltwch a
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
neu 01570 423 232

|