So please - let us help Payday Loans Have a history of poor borrowing
Millenium Volunteers
Gwirfoddolwyr Y Mileniwm PDF Argraffu Ebost
TUESDAY, 28 JULY 2009 11:32

mil_vol_1

Ar y dudalen hon gweler gwybodaeth am y cynllun adnabyddiaeth a drefnir yng Nghymru o’r enw Gwirfoddolwyr y Mileniwm (MV).  Mae MV yn agored i bobl ifanc rhwng 14 a 24 oed sydd eisiau cydnabyddiaeth am yr amser a dreuliwyd yn gwirfoddoli.  Yn ogystal mae gan MV gyllid ar gael i fudiadau sydd ar hyn o bryd yn ymwneud â rhai rhwng 14 a 25 oed neu sydd yn bwriadu dechrau cymryd pobl ifanc fel gwirfoddolwyr yn y mudiad.

Ydych chi rhwng 14 a 25 oed?

Beth yw’r rhaglen MV?

  • Cynllun achrededig Cenedlaethol i bob gwirfoddolwr ifanc rhwng 14 a 25 oed;
  • Mae’n cydnabod yr ymrwymiad parhaol i wirfoddoli a ddangoswyd gan bobl ifanc, gyda gwobrau i gydnabod cwblhau 50,100 a 200 awr;
  • Fe’i cydnabyddir ledled y DU gan gyflogwyr, a sefydliadau addysgol;
  • Mae 71% o Wirfoddolwyr y Mileniwm wedi dechrau gwirfoddoli er mwyn hybu eu CV;
  • Mewn arolwg diweddar, dywedodd 100% o wirfoddolwyr a holwyd y byddent yn ei gymeradwyo i’w ffrindiau.

Nod y rhaglen yw:-

  • Cael effaith bositif ar gymunedau lleol;
  • Cynnig cyfleoedd gwirfoddoli diddorol a llawn her i wirfoddoli ar gyfer pobl ifanc;
  • Galluogi pobl ifanc i feithrin sgiliau a gwybodaeth newydd a datblygu’n bersonol;
  • Sicrhau bod rhagor o bobl ifanc yn gwirfoddoli yn y gymuned;
  • Gosod safon ar gyfer cyfleoedd i wirfoddoli yng Nghymru;
  • Annog pobl ifanc i hawlio’r rhaglen yn eiddo iddyn nhw eu hunain.

Os ydych yn berson ifanc rhwng 14 a 25 oed ac yn gwirfoddoli ar hyn o bryd neu hoffech gofrestru ar y cynllun, lawr lwythwch y ffurflen gofrestru a’i dychwelyd i Gynghorwr Gwirfoddoli Ieuenctid CAVO.


Os hoffech hefyd anfon cofnod o’r oriau a gwblhawyd, gweler y Ffurflen Oriau MV Wedi Eu Cwblhau isod.

Gellir dychwelyd y ddwy ffurflen at Gynghorwr Gwirfoddoli Ieuenctid CAVO:

E-bost: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. Cyfeiriad: Bryndulais, 67 Stryd y Bont, Llanbedr Pont Steffan SA48 7AB

Dolen i’r Ffurflen Gofrestru
Dolen i’r Ffurflen Oriau wedi’i Chwblhau

Ewch i Wefan Gwirfoddoli Ieuenctid am ragor o wybodaeth: GWIRVOL

 


Ydych chi’n fudiad sydd eisiau cynnwys pobl ifanc?

Mudiadau a Chynnwys Pobl Ifanc

Os yw eich mudiad yn ystyried cynnwys pobl ifanc fel gwirfoddolwyr efallai y byddwch eisiau cysylltu â’r tîm i gael gwybod beth yw’r camau nesaf i’w cymryd.

Efallai y bydd o fudd i chi edrych ar wefan WCVA a’r polisïau perthnasol yn ymwneud â gwirfoddolwyr a gwirfoddolwyr ifanc.

Gwirfoddolwyr y Mileniwm a’ch mudiad

  • Rhaglen Gwirfoddoli ledled y DU ar gyfer y rhai rhwng 14 a 25 oed yw Gwirfoddolwyr y Mileniwm (MV).
  • Os yw eich mudiad wedi ymrwymo i gynnwys gwirfoddolwyr ifanc, gwnewch gais heddiw!

Statws Cyllido

  • Ydy’ch mudiad yn edrych am grant i helpu gyda chostau gwirfoddolwyr?
  • Ydy’ch mudiad yn gweithio gyda gwirfoddolwyr rhwng 14 a 25 oed?
  • Allwch chi gynnig y cyfle i berson ifanc wneud ymrwymiad parhaol i wirfoddoli am 200 awr neu ragor dros gyfnod o 12 mis?
  • Ydy’ch cyfleoedd gwirfoddoli o fantais i’r gymuned leol?
  • Os mai ‘Ydy’ yw’r ateb i’r cwestiynau hyn, gallech fod yn gymwys i geisio am grant Gwirfoddolwyr y Mileniwm.
    • Gellir derbyn rhwng £50 a £8000 tuag at gostau’r gwirfoddolwr.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r grant, cliciwch ar y ddolen ganlynol: WCVA


Statws Di-Gyllid

  • A oes gan eich mudiad gyfleoedd i bobl ifanc ar hyn o bryd?
  • A fydd y cyfleodd hyn yn caniatáu i Wirfoddolwyr y Mileniwm gwblhau'r tlws 200 awr?
  • Os nad oes angen cyllid ychwanegol ar eich mudiad i wneud hynny, gellir gwneud cais am statws Di-Gyllid Gwirfoddolwyr y Mileniwm.
  • Bydd hyn yn caniatáu ichi drefnu’r rhaglen MV o fewn eich mudiad heb dderbyn grant.
  • Mae ceisiadau am statws Di-Gyllid yn barhaus ac fe’u hasesir fel y’u derbynnir.

I wybod rhagor ynghylch y grant, cliciwch ar y ddolen ganlynol: WCVA

Am gyngor ynghylch cwblhau’r ffurflen gais am grant neu os am ragor o wybodaeth ynglyn â Gwirfoddolwyr y Mileniwm gan gynnwys pobl ifanc yn eich mudiad, cysyllter â’r Cynghorwr Gwirfoddoli Ieuenctid yn CAVO:

E-bost: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Rhadffôn: 0800 3280940
Ffôn: 01570 423232

Cyfeiriad: Bryndulais, 67 Stryd y Bont, Llanbedr Pont Steffan SA48 7AB

 Gellir cael rhagor o wybodaeth ar www.gwirvol.org ac ar www.wcva.org.uk


 
Baner
Baner
CAVO designed Template