|
Gwirfoddoli gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Canolfan Gwirfoddoli CAVO yn gyfrifol am recriwtio, sgrinio a chefnogi gwirfoddolwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Pwy yw’r gwirfoddolwyr?
Gall gwirfoddolwyr fod yn unrhyw un sydd ag ychydig oriau i sbario, ac sy’n mwynhau gweithio gydag ystod eang o bobl. Mae angen i wirfoddolwyr fod yn 18 mlwydd oed neu drosodd ar gyfer y rhan fwyaf o rolau gwirfoddoli.
Beth mae gwirfoddolwyr yn ei wneud? Gallai gwirfoddolwyr gael eu rhoi gyda defnyddiwr unigol neu gr?p o ddefnyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Gan amlaf mae gwirfoddolwyr yn gweithio mewn rôl cefnogi/bod yn gyfaill gyda defnyddwyr gwasanaeth ac yn ategu at y staff cyflogedig.
Gall Gwirfoddolwyr fod yn rhan o’r prosiectau canlynol: • Cynllun gyrwyr gwirfoddol • Gwirfoddoli drwy fod yn gyfaill/cefnogi • Gwirfoddoli gyda phobl ifanc.
Gall gwirfoddolwyr fod yn rhan o ystod o weithgareddau gyda defnyddwyr gwasanaeth er enghraifft: • Galw heibio rhywun am sgwrs • Mynd i siopa gyda defnyddiwr • Cludo defnyddiwr i ymweld â phlentyn er mwyn cadw mewn cysylltiad. Rhaid i bob gwirfoddolwr gwblhau ffurflen gofrestru, cyflwyno dau eirda priodol a chwblhau Ffurflen Ddatgelu CRB (Archwiliad gan yr heddlu). Am ragor o wybodaeth, cysyllter â Enid Heneghan ar 0800 328 0940 neu
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
I wneud cais i ddod yn wirfoddolwr gyda Gwasanaeth Cymdeithasol Ceredigion:
Mae Canolfan Gwirfoddoli CAVO yn siop-un stop am wybodaeth a chyngor ynghylch gwirfoddoli, cyfleoedd gwirfoddoli a materion yn ymwneud â gwirfoddoli. Os ydych angen denu gwirfoddolwyr newydd i gefnogi eich gweithgareddau, cysyllter â ni i gofrestru eich cyfle ar ein Basdata Gwirfoddoli.
Ffurflenni Gwybodaeth
Mae gennym ystod gynhwysfawr o daflenni gwybodaeth am y rhan fwyaf o agweddau sefydlu a threfnu mudiad gwirfoddol neu gymunedol. CLICIWCH YMA am ffurflen gais gwirfoddoli. |