Wales
Public Health Wales: Recruiting for a Research Project / Iechyd Cyhoeddus Cymru: Recriwtio ar gyfer Prosiect Ymchwil
On behalf of Public Health Wales they are looking for 2 Patient and Public Involvement members for a research project briefly outlined below:
Public Health Wales funded by the Health Foundation (Covid-19 research funding) is looking to recruit 2 Patient and Public Involvement (PPI) members of the steering group which would involve attending three (remote/virtual) meetings across the 12 month period (first one in January, second in June/July and last one in December), and it would be in an advisory capacity. This research project is a partnership between Public Health Wales WCVA, What Works Wellbeing and the University of Bristol to understand the role of community-led action as a protective factor against widening health inequalities during, and in recovery from COVID-19.
In particular the two PPI members would:
Add their input and insights to help shape the work going forward and sense-check it.
Have a regular opportunity to coproduce input in each step of the research cycle – from design to dissemination.
Help to actively coproduce the research methods that we will use, by offering insights into what is actually happening on the ground.
Inclusion criteria:
– Aged 18 years or above.
– Living and/or working in Wales.
– Basic IT skills.
– Experience in using Microsoft Teams basic features (or Zoom / Skype if needed).
– Grassroots volunteer; informal or formal volunteer; worker in the third sector; general member of the public.
Each meeting will last approximately 2.5 hours, plus approximately an extra 30 min to read the agenda/briefing information before each meeting.
Therefore, the two PPI will be asked to commit to a total of 9 to 10 hours over the 12 months. There is there opportunity for some remuneration, within the research budget.
Please contact Chiara Tuveri at Public Health Wales for further information Chiara.Tuveri@wales.nhs.uk
Ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, maen nhw’n chwilio am ddau aelod Ymgysylltu â Chleifion a’r Cyhoedd ar gyfer prosiect ymchwil a amlinellir yn gryno isod:
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyllidir gan y Sefydliad Iechyd (cyllid ymchwil Covid-19) yn dymuno recriwtio dau aelod Ymgysylltu â Chleifion a’r Cyhoedd (PPI) ar gyfer grŵp llywio. Byddai hyn yn cynnwys mynychu tri chyfarfod (o bell/rhithwir) dros gyfnod o 12 mis (yr un gyntaf ym mis Ionawr, yr ail ym mis Mehefin/Gorffennaf a’r un olaf ym mis Rhagfyr), a byddai mewn cymhwyster ymgynghorol. Mae’r prosiect ymchwil hwn yn bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, CGGC, ‘What Works Wellbeing’ a Phrifysgol Bryste i ddeall rôl gweithredu dan arweiniad y gymuned fel ffactor amddiffynnol yn erbyn anghydraddoldebau iechyd sy’n cynyddu yn ystod, ac wrth adfer o COVID-19.
Yn benodol, byddai’r ddau aelod PPI yn:
Ychwanegu eu mewnbwn a’u mewnwelediadau er mwyn helpu i lywio’r gwaith wrth fynd ymlaen a gwirio ei fod yn gwneud synnwyr.
Cael cyfle rheolaidd i gyd-gynhyrchu mewnbwn ar bob cam o’r gylchred ymchwil – o’r dylunio i’r dosbarthu.
Helpu i fynd ati i gyd-gynhyrchu’r dulliau ymchwilio y byddwn ni’n eu defnyddio, drwy gynnig mewnwelediadau i’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd ar lawr gwlad.
Meini prawf cynnwys:
– 18 oed a hŷn.
– Byw a/neu’n gweithio yng Nghymru.
– Sgiliau TG sylfaenol.
– Profiad o ddefnyddio nodweddion sylfaenol Microsoft Teams (neu Zoom / Skype os oes angen).
– Gwirfoddolwr llawr gwlad; gwirfoddolwr anffurfiol neu ffurfiol; gweithiwr o’r trydydd sector; aelod o’r cyhoedd.
Bydd pob cyfarfod yn para tua 2.5 awr, ynghyd ag oddeutu 30 munud ychwanegol i ddarllen yr agenda/gwybodaeth briffio cyn pob cyfarfod.
Felly, bydd gofyn i’r ddau aelod PPI ymrwymo cyfanswm o 9 i 10 awr dros gyfnod o 12 mis. Mae cyfle am rywfaint o daliad cydnabyddiaeth o fewn cyllideb y gwaith ymchwil.
Cysylltwch â Chiara Tuveri yn Iechyd Cyhoeddus Cymru am ragor o wybodaeth Chiara.Tuveri@wales.nhs.uk