A oes gyda chi unrhyw syniadau ar gyfer cronfa grant LEADER sydd gan Cynnal y Cardi ar hyn o bryd? Mae’r cyfres o ddyddiadau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi’i hymestyn, a’r olaf yw 25ain Gorffennaf 2022.
Gall y grant gynnig cyllid refeniw rhwng £1,000 a £10,000, a’i nod yw darparu cefnogaeth ariannol ar raddfa fach i:
- Sefydliadau wrth iddynt adfer yn dilyn covid.
Cynorthwyo cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cyn-fasnachol.
- Peilota gweithgareddau arloesol sy’n cynnig cyfleoedd i brofi cysyniad syniad.
- Cynorthwyo gweithgarwch sy’n cryfhau cydlyniant cymunedol.
- Hyfforddiant a chymorth arall sydd ei angen i helpu i gyflwyno gweithgareddau mewn cyfnod o adferiad dilyn covid.
- Datblygu cyfleoedd i rannu adnoddau a rhwydweithio.
- Cefnogaeth i weithgaredd gyda’r nod o gryfhau cyfleoedd ar gyfer datblygu economi gylchol Ceredigion
Rhaid i’r ceisiadau dilyn egwyddorion LEADER, a dangos sut bydd y prosiect yn gwneud gwahaniaeth i unigolion, cymunedau a’r economi leol. Croesewir ceisiadau gan sefydliadau yn y Trydydd sector, y sector Gyhoeddus a Phreifat ond rhaid iddynt fodloni meini prawf a blaenoriaethau Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth ac i drafod eich syniad, peidiwch ag oedi cyn cysylltu. Gellir gweld y canllawiau grant hefyd ar ein gwefan – Cynnal Y Cardi LEADER Grant Scheme.
Sylwadau Diweddar