Yn eich cefnogi i ddatblygu strategaethau ariannu
Eich helpu i nodi a mynd ar drywydd cyfleoedd ariannu gan gynnwys Codi Arian, tendro a chymorth rhodd
Hwyluso mynediad uniongyrchol i gyllidwyr a dosbarthu diweddariadau cyllid
Rhedeg cynlluniau grant CMGC
Cydlynu hyfforddiant ariannu
Cynllun Grant Bach CAVO (gan gynnwys Cronfa Pwysau’r Gaeaf)
Mae’r Cynllun Grant Bach CAVO yn cefnogi prosiectau yng Ngheredigion sy’n adeiladu cymunedau cryfach, cefnogi gwirfoddolwyr, gwella amgylcheddau gwledig a threfol neu’n ail-gysylltu pobl â gweithgareddau cymunedol. Gallwch wneud cais am hyd at £2,000 gyda ffurflen gais sy’n un dudalen.
Os yw’ch prosiect o fudd i drigolion Ngheredigion, cysylltwch â ni i drafod eich syniadau!
Gallwch chi lawr-lwythwch y ffurflen gais a’i hanfon at gen@cavo.org.uk mailto:gen@cavo.org.uk neu cysylltwch â ni ar 01570 423232.
Os nad yw’ch prosiect yn addas ar gyfer y Cynllun Grant Bach, byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i gyllidau eraill.
Cynllun Arloesi Cymunedau Gofalgar
Mae’r Cynllun yn galw am syniadau prosiect arloesol yng Ngheredigion sy’n treialu ffyrdd o adeiladu gallu a gwytnwch cymunedol er mwyn datblygu gwasanaethau integredig a chefnogol ar gyfer:
- Pobl fregus a hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia;
- Pobl ag anabledd dysgu
- Plant ag anghenion cymhleth oherwydd anabledd neu salwch
- Gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc.
Bydd y Cynllun yn ystyried ariannu 100% o gostau’r prosiect lan i £20,000. Mae’r cyllid yn bennaf ar gyfer costau refeniw. Rhaid dangos bod unrhyw gostau cyfalaf a gynhwysir yn hanfodol i lwyddiant y model gwasanaeth newydd.
Rydyn ni yn chwilio am brosiectau i gefnogi trwy’r amser felly cysylltwch â ni heddiw i drafod eich syniadau!
Chwilio am gyllid?
Cyllido Cymru yw’r llwyfan i chwilio am gyllid i’r trydydd sector yng Nghymru.
Fe’i datblygwyd gan rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru i alluogi mudiadau trydydd sector i chwilio drwy gannoedd o gyfleoedd am grantiau ac arian benthyg o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Newyddion Diweddar
Cronfa’r Jiwbilî Platinwm
Mae'r Jiwbilî Platinwm yn dathlu 70 mlynedd o deyrnasiad Ei Mawrhydi Y Frenhines ac i nodi'r achlysur hwn, bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ariannu 70 o brosiectau ledled y DU. Dyddiad Cau: 15/12/21Darllen mwy ar Cyllido Cymru
CYNNAL Y CARDI CRONFA GRANT LEADER
Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi wedi lansio Cronfa Grant newydd, fel rhan o'r cynllun LEADER, a fydd yn cefnogi gweithgaredd LEADER ar raddfa fach yng Ngheredigion. Gall y gronfa eich helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned, gyda'r nod o ddarparu cymorth...
Grant Cymorth Cofrestru Etholwyr y Trydydd Sector
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i leihau'r diffyg democrataidd. Ein blaenoriaeth yw bod nifer y pleidleiswyr sydd newydd ddod yn gymwys sy’n cofrestru yn cynyddu. Mae hyn yn cynnwys rhai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf a phleidleiswyr o grwpiau sydd...
GAEAF LLAWN LLES – Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Cyfan
Nod y grant yw cefnogi lles plant a phobl ifanc drwy: • darparu'r lle a'r amser ar gyfer chwarae, cefnogi eu hwyl a'r cyfle i fynegi eu hunain drwy chwarae mentrau rhyngweithiol, creadigol a chwarae yn y gymuned ar gyfer pob oedran darparu cyfleoedd i ddatblygu ac...
Cronfa Pobl Hyn
Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau Mae’n rhaid i bob grŵp lenwi ffurflen gais ar lein erbyn 12fed o Ionawr 2022. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu am y canlyniad o fewn 2 fis o'r dyddiad cau. Mae’r grantiau am gefnogi grwpiau a all ddangos effaith fuddiol barhaus...
Cynllun Cymunedau Trethi Tirlenwi yn agored i geisiadau
Mae seithfed rownd y Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) bellach yn agored i geisiadau. Ar gyfer prif grantiau rhwng £5,000 - £49,000 a phrosiectau o Arwyddocâd Cenedlaethol. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 23 Ionawr 2022, bydd prosiectau...
Ar Agor – Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies
Mae'r gronfa hon bellach ar agor i grwpiau ac unigolion. Y dyddiad cau yw 13eg Rhagfyr 2021 am 12pm. Mae Cronfa Waddol Dr Dewi Davies yn rhoi cymorth i’r canlynol: Grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi ac ynysu gan gynnwys tlodi tanwydd a...
Mae Cronfa Gofalwyr Ceredigion bellach ar agor ar gyfer ceisiadau
Mae'r gronfa ar agor i ofalwyr di-dâl o bob oed. Gall gofalwyr unigol a theuluoedd wneud cais. Gall Cronfa Gofalwyr Ceredigion dalu hyd at £150 i ofalwr. I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen cais ar-lein, ewch i: www.ceredigion.gov.uk/cronfagofalwyr
Cael cyllid cyfatebol drwy gynllun COVID-19 ‘Crowdfunder’
Mae’r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol wedi partneru â ‘Crowdfunder’ i ddosbarthu’r arian sydd ar ôl o’r £1.2 miliwn o Gronfeydd Apêl y Coronafeirws. Mae cyllid cyfatebol ar gael i fudiadau sy’n rhedeg ymgyrchoedd ‘Crowdfunder’. Mae’r £1.2 miliwn sydd ar...
Mae Cadw a’r Gronfa Treftadaeth yng Nghymru yn falch o gyhoeddi cynllun grantiau ‘Trysorau’r Filltir Sgwâr – Rownd 2’.
Daw'r neges isod o'r Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: Gall cymunedau ledled Cymru nawr wneud cais am grant rhwng £3,000 a £10,000 ar gyfer prosiectau cyfalaf fydd yn annog ymgysylltiad â'u treftadaeth leol. Trysorau'r Filltir Sgwar - rownd 2. Dyddiad cau ar...