Fforwm Anabledd Ceredigion

Ariennir CAVO gan Gyngor Sir Ceredigion i hwyluso Fforwm Anabledd, i ddarparu llwyfan i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’r problemau sy’n wynebu’r Gymuned Anabl, ac i ddysgu sut y gall polisïau a phenderfyniadau Cyngor Sir Ceredigion weithiau greu neu ddatrys problemau i’r gymuned hon er mwyn gwella’r ddarpariaeth i bawb a llywio prosesau cynllunio perthnasol.

Cynhelir pedwar cyfarfod y flwyddyn gydag aelodau’r gymuned i nodi anghenion a materion. Yna cynhelir pedwar cyfarfod dilynol y mae swyddogion penodol o Gyngor Sir Ceredigion a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill yn eu mynychu i archwilio’r anghenion a’r materion a nodwyd.

Y brif her fu meithrin ymddiriedaeth a chyfathrebu. Mae CAVO fel hwyluswyr wedi gwneud cynnydd rhagorol o ran cyflawni hyn.