Fforwm Gymunedol Penparcau

Cofrestrodd Fforwm Penparcau ar gyfer ‘sesiwn Rolau a Chyfrifoldeb Ymddiriedolwyr’ fel sesiwn gloywi i’w hymddiriedolwyr presennol ac fel cyflwyniad i ymddiriedolwyr mwy newydd. Trefnwyd sesiwn gyda’r nos, gyda swyddog CAVO, i fynd drwy eu dealltwriaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ymddiriedolwr, egwyddorion llywodraethu da a’r canllaw ‘Yr Ymddiriedolwr Hanfodol’. Y nod oedd rhoi gwerthfawrogiad o’r hyn y mae ymddiriedolwyr yn atebol amdano a deall sut i gyfyngu ar risgiau posibl. Cynhwyswyd trosolwg hefyd o recriwtio ac ymsefydlu effeithiol i ymddiriedolwyr. Daeth y sesiwn i ben drwy fynd drwy ‘Archwiliad Iechyd’ ar gyfer y sefydliad, gan nodi meysydd o gryfder a hefyd feysydd pwnc eraill yr oeddent hwy, fel Bwrdd Ymddiriedolwyr, yn credu y gellid gwella arnynt.

Roedd yr adborth o’r sesiwn yn cynnwys “Gwnaeth i mi fod yn fwy ymwybodol o rôl yr Ymddiriedolwyr yn gyffredinol”, “Yn broffesiynol ac yn hyderus” a “Roedd wedi’i lunio’n dda, ac yn teimlo’n gartrefol.”

Dywedodd Karen, Rheolwr y Fforwm, “Rwyf i fel Rheolwr yn gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth y mae’r Fforwm yn ei chael yn enwedig yr hyfforddiant a oedd wedi’i deilwra i’n gofynion.”