Gwirfoddoli mewn Catref Gofal Ceredigion

Fy Mhrofiad mewn Gwirfoddoli mewn Cartref Gofal yng Ngheredigion

Ar yr 16eg o Fai 2019, roedd poster yn neuadd bentref Rhyd-y-Pennau yn hysbysebu diwrnod agored yng Nghartref Gofal Tregerddan, gyda golwg ar yrfa newydd. Roedd gen i fy musnes glanhau hunangyflogedig bach fy hun dros 10 mlynedd yn barod, fodd bynnag, wrth i mi fwynhau cwmni fy nghleient oedrannus, roeddwn i’n meddwl pe bawn i’n cyfuno fy musnes â gweithio yng Nghartref Gofal Tregerddan y gallai ategu fy musnes. Mynychais y diwrnod agored a meddwl pe byddwn yn gwirfoddoli yn y cartref, y byddai’n rhoi cyfle imi weld os mai dyma’r llwybr yr oeddwn am ei ddilyn.

Cwblhais ffurflen gais gwirfoddolwyr o’r cartref gofal, ac yna cysylltodd Ruth Evans (o CAVO) â mi drwy e-bost gyda’r holl wybodaeth yr oedd ei hangen arnaf i wirfoddoli. Roedd Ruth yn gyfeillgar a chymwynasgar iawn ac yn fy helpu gyda’r holl gamau y bu’n rhaid i mi eu cymryd gan gynnwys cwblhau gwiriad DBS ar-lein.

Ddiwedd Mai 2019 trefnodd Ruth i gwrdd â mi yng Nghartref Gofal Tregerddan i gwblhau fy ngwaith papur ac i ddangos fy nogfen adnabod.

Ar ôl cwblhau popeth, dechreuais wirfoddoli yng Nghartref Gofal Tregerddan ar 4 Gorffennaf 2019 am 2 fore’r wythnos ar 3 awr bob dydd. Dechreuais yn y neuadd fwyta yn cynorthwyo gyda brecwastau, yna ciniawau, gan ddarganfod dewisiadau pob preswylydd a gofynion bwyd dyddiol. Byddwn hefyd yn rhoi cwmni i’r preswylwyr tra’n eu cadw’n gyfforddus a wedi hydradu. Byddwn hefyd yn cynorthwyo yn yr ystafell olchi dillad a byddwn yn mynd â’r troli te o amgylch y cartref cyfan. Byddwn hefyd yn mynd â phrydau bwyd i ystafelloedd unigol pan fo angen.

Anfonodd Ruth e-bost ataf ar rai achlysuron gwahanol a chysylltodd hefyd â’r cartref ei hun i holi sut yr oeddwn yn bwrw ymlaen. Rhoddodd wybod i mi hefyd y gallwn gysylltu â hi ar unrhyw adeg a’i bod bob amser yno i helpu.

Ar y 10fed a’r 11eg o Ragfyr 2019 cefais fy nghofrestru ar gwrs codi a chario ddeuddydd ger Llanbedr Pont Steffan gyda dau aelod arall o staff. Ym mis Ionawr 2020 cofrestrais ar-lein ar gyfer swyddi gwag yn y cartref gofal fel gofalwr.

Euthum ar gyfweliad ar gyfer swydd gofalwyr 24 awr ond er fy mod ar y cyfweliad cefais wybod bod swydd wag 16 awr newydd ddod ar gael y bore hwnnw ac wrth i ni drafod byddai’n fy nghefnogi’n well gan fy mod yn dal i gadw ar fy musnes glanhau bach.

Fe wnes i gais eto a chael cyfweliad arall y tro hwn ar gyfer y swydd wag 16 awr fel gofalwr.

Yna cefais gynnig contract dim oriau fel gofalwr yn y cartref.

Ar hyn o bryd rydym mewn pandemig byd-eang oherwydd y coronafeirws. O ganlyniad i hyn, bu’n rhaid i mi ohirio fy swydd o ddim oriau am y tro, wrth i rai o’m cleientiaid ddod i mewn i’r categori bregus ac i’r diogelu rhag y feirws, fy mlaenoriaeth yw i ymbellhau fy hunan oddi wrth sefyllfaoedd cymunedol.

I grynhoi, byddwn yn argymell gwirfoddoli gan ei fod yn eich galluogi i fagu hyder mewn sefyllfaoedd newydd ac yn eich helpu i ffurfio cyfeillgarwch â cyd-weithwyr cyn i chi weithio yno.

Hefyd mae staff gwirfoddol Ceredigion bob amser ar gael i chi drwy gydol eich cyfnod gwirfoddoli.