Canllawiau ar gyfer Lleoliadau Cymunedol yng Ngheredigion

Sefydlwyd panel amlasiantaeth i gynnig cyngor a chefnogi’r gwaith o ailagor cyfleusterau’n ddiogel, a hynny’n unol â chanllawiau cenedlaethol. Crëwyd y panel o dan Is-grŵp Deall ein Cymunedau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion. Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) a Chyngor Sir Ceredigion sy’n arwain ar y gwaith o ddatblygu’r grŵp a hynny mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed Powys a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’r panel yn cynnwys cynrychiolaeth o Iechyd a Diogelwch, Iechyd yr Amgylchedd a Diogelwch Cymunedol.

Mae’r panel yn annog unrhyw un sy’n gyfrifol am gyfleusterau cymunedol i geisio cyngor er mwyn sicrhau bod y trefniadau’n ddiogel ac yn cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol. Cyn ailagor unrhyw gyfleuster cymunedol, rhaid i’r canolfannau hynny sicrhau eu bod yn barthau sy’n rhydd rhag Covid.

Mae’r panel wedi creu pecyn adnoddau i gynorthwyo i ailagor lleoliadau cymunedol yn ddiogel. Mae’r pecyn adnoddau ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion ac mae’n cynnwys:

  • Canllawiau WCVA ar gyfer y Ganolfan Gymunedol
  • Cyngor glanhau
  • Templed asesu risg ar gyfer ailagor adeiladau cymunedol
  • Templed asesu risg ar gyfer hurwyr adeiladau cymunedol
  • Posteri a deunyddiau y gellir eu lawrlwytho

Mae’r panel hefyd wedi cynnal cyfres o sesiynau briffio ar gyfer unigolion, grwpiau neu sefydliadau sy’n gyfrifol am ganolfannau cymunedol amlbwrpas, sy’n canolbwyntio ar adeiladau, pobl a gweithgareddau.