Ers ei lawnsio diwedd mis Tachwedd 2020, mae rhaglen Credydau Amser Tempo Cymru yn tyfu.
Wedi ei ariannu gan y Llywodraeth, mae’r rhaglen cyffrous newydd am fynd i’r afael â thlodi ac effeithiau unigrwydd ac ynysrwydd wrth weithio mewn partneriaieth gyda’r CGS a’n bwriad yw i dderfnyddio Credydau Amser i sbarduno cydweithdra mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae gwirfoddolwyr sydd yn rhoi eu hamser i fudiadau sy’n aelodau o Gredydau Amser Tempo yn derbyn Credydau Amser Tempo.
Unwaith bydd y Credydau Amser yn cael eu trosglwyddo i gyfrif y gwirfoddolwr, mi fyddant yn medru dewis un o’r ystod eang o weithgareddau ac adnoddau gyda’n Partneriaid Cydnabyddiaeth.
Gan gynnwys atyniadau megis Y Bathdy Brenhinol, Plantasia a Chestyll Cadw yn ogystal â nifer o gyfleoedd arlein a chenedlaethol, mae hefyd nifer o gyfleoedd mwy lleol lle medrwch eu hatgyfnewid.
Er mwyn ymuno â’n rhwydwaith a cychwyn ar y daith gyda ni, dilynwch y ddolen i gofrestru nawr:
Group Application Form (office.com) neu am ragor o fanylion, ebostiwch carwendavies@wearetempo.org
Sylwadau Diweddar