Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Dwyieithrwydd ar Waith – Cymraeg

2nd Tachwedd 2021 @ 10:00 am - 11:30 am

Cyflwynir y sesiwn hon trwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir gweld y sesiwn gyfrwng Saesneg yma.

Amcanion

Bydd y sesiwn AM DDIM hon, gan Dîm Hybu Gomisiynydd y Gymraeg, yn caniatáu i chi ddatblygu defnydd eich sefydliad o’r iaith Gymraeg. Bydd yn rhannu gwybodaeth, ymchwil a chymorth ymarferol ar sut i gynllunio i gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn eich sefydliad.

Cynnwys

Beth yw rôl y Gymraeg o fewn y trydydd sector? Sut mae’n berthnasol i chi, eich sefydliad a’ch defnyddwyr gwasanaeth? Sut gallwch chi gynllunio er mwyn sicrhau eich bod yn ymateb i anghenion eich cynulleidfa? Byddwn yn cynnig syniadau ymarferol gallwch eu rhoi ar waith i gynyddu eich darpariaeth Gymraeg yn syth. Yn y sesiwn hon byddwch yn edrych ar fanteision y Gymraeg, cyd-destun hanesyddol a phresennol yr iaith, y cymorth sydd ar gael gan Gomisiynydd y Gymraeg, a chynllunio ymarferol er mwyn datblygu eich defnydd o’r Gymraeg.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn gallu:

  • Deall cyd-destun hanesyddol a chyfredol y Gymraeg yn well
  • Deall y sefyllfa ynglŷn â deddfwriaeth a pholisi cyhoeddus y Gymraeg yn well
  • Deall perthnasedd y Gymraeg i’ch cwsmeriaid a’ch defnyddwyr gwasanaeth
  • Disgrifio manteision y Gymraeg o fewn cyd-destun y trydydd sector
  • Adnabod a defnyddio’r cymorth a’r cyngor sydd ar gael yn rhad ac am ddim gan Gomisiynydd y Gymraeg ac eraill

Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru ewch i’r gwefan WCVA.

Details

Date:
2nd Tachwedd 2021
Time:
10:00 am - 11:30 am
Event Category:
Event Tags:
,
Website:
https://wcva.cymru/training-events/bilingualism-at-work-2/

Organizer

WCVA