Bydd un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop yn dod i Geredigion ym mis Awst 2022. Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nhregaron rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2022.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant Cymru, yn gymysgedd o gystadlaethau talent a chyngherddau gyda’r nos, gigs, dramâu ac arddangosfeydd; ac yn y prif bafiliwn cynhelir seremonïau lliwgar ac unigryw yr orsedd.