Bydd Ffair Ariannu Rhith 2021 PAVS yn cynnwys sgyrsiau dyddiol am ariannu, a gynhelir am 10am trwy gydol yr wythnos, o ddydd Llun 15 Tachwedd tan ddydd Gwener 19 Tachwedd.
Ymunwch â ni i glywed gan gyllidwyr lleol a chan rai cyllidwyr cenedlaethol allweddol. Mae’r cyllidwyr a fydd yn cyflwyno yn cynnwys Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cyngor Sir Penfro am eu Cronfa Gwella Sir Benfro, Sefydliad Waterloo, Grant Cymunedol Tesco a mwy!
Mae’r sgyrsiau hyn yn cynnig cyfle gwych i gael gwybod mwy am bob cyllidwr, gofyn cwestiynau a rhannu eich profiadau chi o gyllido a chodi arian gyda chyfranogwyr eraill.
Trowch at Eventbrite (dolen yma) i archebu lle ar y sgyrsiau yr hoffech chi eu mynychu;
Diwrnod 1 – Potiau Cyllid a Reolir PAVS, Sefydliad Moondance a Phorthladd Aberdaugleddau.
Diwrnod 2 – Cronfa Datblygu Cynaliadwy a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Diwrnod 3 – Grant Gwella Sir Benfro a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
Diwrnod 4 – Sesiwn ynghylch Mentrau Cymdeithasol
Diwrnod 5 – Cyngor Sir Penfro (Tîm Datblygu Chwaraeon) a Grantiau Cymunedol Tesco
Sylwer y cynhelir y digwyddiadau hyn dros Zoom.
Mae’r Ffair Ariannu yn rhan o waith parhaus Tîm Cymorth Trydydd Sector PAVS, gan ddarparu gwybodaeth ac arweiniad ynghylch cyllid i grwpiau yn Sir Benfro. Cysylltwch os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau ac edrychwn ymlaen at eich gweld yno!