Bydd ein gweminar arbennig ar gyfer yr Wythnos Ymddiriedolwyr yn rhoi camau gweithredu ymarferol y gallwch chi eu cymryd i gryfhau llywodraethiant eich elusen ac yn amlygu offer ac adnoddau defnyddiol ar gyfer ymddiriedolwyr.
Amcanion
I ddathlu’r Wythnos Ymddiriedolwyr a chyflwyno rhai syniadau da, offer ac adnoddau i helpu ymddiriedolwyr elusennau gyda’u cyfrifoldebau llywodraethu.
Cynnwys
Mae llywodraethu da yn hanfodol i lwyddiant mudiadau gwirfoddol. Bydd ein gweminar arbennig ar gyfer yr Wythnos Ymddiriedolwyr yn rhoi camau gweithredu ymarferol y gallwch chi eu cymryd i gryfhau llywodraethiant eich elusen ac yn amlygu offer ac adnoddau defnyddiol ar gyfer ymddiriedolwyr.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y weminar bydd cyfranogwyr:
Gyda mwy o ymwybyddiaeth o gamau syml y gallant eu cymryd i wella llywodraethiant eu helusen
Gyda mwy o ymwybyddiaeth o offer ac adnoddau defnyddiol sy’n gallu eu cynorthwyo yn eu rôl
Yn gwybod i ble i fynd am help a dod o hyd i ragor o wybodaeth
I bwy mae’r sesiwn
Bydd y sesiwn hon yn ddefnyddiol i unrhyw un â diddordeb mewn llywodraethiant elusen, ond bydd yn arbennig o berthnasol i ymddiriedolwyr a staff uwch sy’n ymwneud yn uniongyrchol â llywodraethiant elusen.