Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg
Mae’r weminar hon wedi’i hanelu at y rheiny sy’n gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol a bydd yn eich cyflwyno i adnoddau y gallwch eu defnyddio i gael pobl i ymgysylltu â thechnoleg digidol. Bydd y sesiwn yn eich ysbrydoli ac yn rhoi syniadau i chi am sut i gynnal gweithgareddau digidol i wella iechyd a lles y bobl rydych chi’n gofalu amdanyn nhw. Bydd y testunau sy’n cael eu trafod yn cynnwys hel atgofion, defnyddio YouTube, cerddoriaeth, darllen ar-lein, cerddoriaeth, gemau / posau, apiau creadigol, Google Maps/Google Earth i’ch arwain i ble y cawsoch eich geni neu’ch magu, ac ati.