Falle eich bod am ddiogelu’r amgylchedd, gwella iechyd meddwl, brwydro yn erbyn hiliaeth, cefnogi pobl fregus yn eich gymuned neu rhywbeth hollol wahanol, gallwch chi gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae yna llawer o wahanol ffyrdd y gallwch gwneud hyn.
Trwy weithredu, byddwch nid yn unig o fudd i’ch gymuned, byddwch hefyd yn ennill sgiliau a phrofiad a fydd yn eich helpu i gyflawni pethau gwych yn yr ysgol, mewn addysg bellach ac yn eich cyflogadwyedd wrth chwilio am swydd.
Yn yr adran hyn, fe gewch wybodaeth ar sut y gallwch chi gymeryd rhan. Felly peidiwch ac eistedd yn ôl ac aros i newid digwydd – gwnewch i’r newid ddigwydd nawr.

Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc Ceredigion
Mae’r Grant dan arweiniad Ieuenctid Ceredigion yn cefnogi gweithgareddau a arweinir ac a gyflawnir gan bobl ifanc. Mae’r gronfa’n helpu i rymuso pobl ifanc i ddatblygu eu mentrau eu hunain, cymryd rhan weithredol yn eu cymunedau a chynnwys/recriwtio pobl ifanc i gymryd rhan mewn prosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli dan arweiniad pobl ifanc yng Ngheredigion. Gweinyddir y Gronfa Grantiau dan Arweiniad Pobl Ifanc gan CAVO ar ran CGGC a Llywodraeth Cymru.
Derbyniodd Ieuenctid Tysul Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc ar gyfer offer garddio fel y gallai pobl ifanc gymryd rhan yn y prosiect tyfu cymunedol, Yr Ardd. Clywch gan rhai o’r pobl ifanc sy’n ymwneud â’r prosiect:
Am mwy o gwybodaeth weld:
Newyddion Diweddaraf
Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr
Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr 2022 yw'r 21ain flwyddyn i'r dathliad cenedlaethol o wirfoddoli ddigwydd. Eleni bydd yr wythnos yn cael ei chynnal rhwng 7 a 13 Chwefror 2022. Mae Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr yn dathlu gwirfoddoli myfyrwyr yn y ffyrdd canlynol: Gwella...
Helpwch i greu platfform gwirfoddoli sy’n gweithio i chi
Ar gyfer Girfoddolwyr (sgroliwch i lawr ar gyfer yr Adran Darparwyr Gwirfoddol) Mae’r pandemig wedi arwain at gynnydd mawr yn nifer y gwirfoddolwyr yng Nghymru. Nod Gwirfoddoli Cymru yw adeiladu ar hyn a darparu llwyfan gwirfoddoli sy’n addas ar gyfer y...
Mae enwebiadau ar agor ar gyfer y Wobrau Gwirfoddolwyr Ceredigion 2021!
Os ydych chi'n adnabod gwirfoddolwr sydd wedi gwneud gwaith eithriadol yn ei gymuned sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i eraill neu i'w hunain, yna beth am eu henwebu ar gyfer y wobr bwysig hon? Mae yna 5 categori ar gyfer enwebiadau sef: Gwobr - Wedi...
Ydych chi’n greadigol? Dyluniwch logo a masgot ar gyfer Yr Ardd!
Am ragor o wybodaeth cysylltwch a yrardd@gmail.com. Y dyddiad cau yw'r 31 o Fai 2021.
Defnyddio Celf i Hybu Iechyd Meddwl Oedolion Ifanc
munwch â'n dosbarthiadau celf newydd ar gyfer 18-25 oed. Gan weithio gydag ymarferion celf a therapiwtig, mae Amethyst yn cynnig y cyfle i fod yn greadigol ynghyd ag i siarad. ar-lein ac am ddim. Ewch i https://smallworld.org.uk/amethyst am fwy o wybodaeth neu e...
Gwneud gwirfoddoli ymysg pobl ifanc yn anhygoel yng Nghymru!
Mae'r digwyddiad am ddim hwn a gynhelir gan WCVA ar Ddydd Mawrth 9fed o Fawrth 2021 rhwng 2-3.30pm. Cofrestrwch yma Mae gwirfoddoli ymysg pobl ifanc yn anhygoel pan fydd yn cael ei wneud yn iawn, ond sut ydych chi’n llwyddo i wneud pethau’n iawn, ar gyfer pobl ifanc...
Sut i sicrhau diogelwch gwirfoddolwyr yn ystod y cyfnod clo
Mae ymdrechion gwirfoddol ffurfiol ac anffurfiol wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i unigolion a chymunedau yng Nghymru ers dechrau pandemig COVID-19. Mae’r math hwn o gymorth yn galluogi pobl i hunanynysu pan fo angen a chadw mewn cysylltiad. Nawr bod y gyfradd heintio...
Gwirfoddoli Cymru: Dweud eich dweud – Arolwg ar gyfer pobl ifanc
Mae Gwirfoddoli Cymru eisiau clywed beth sydd gan bobl ifanc 13-25 oed i’w ddweud am eu gwefan / ap. Cwblhewch yr arolwg byr hwn os oes gennych brofiad o ddefnyddio’r wefan o’r blaen neu erioed wedi clywed amdani, i fod â siawns o ennill 1 o 5 taleb £ 20. ...