Gwirfoddoli Ieuenctid

Falle eich bod am ddiogelu’r amgylcheddgwella iechyd meddwlbrwydro yn erbyn hiliaethcefnogi pobl fregus yn eich gymuned neu rhywbeth hollol wahanolgallwch chi gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae yna llawer o wahanol ffyrdd y gallwch gwneud hyn. 

Trwy weithredu, byddwch nid yn unig o fudd i’ch gymunedbyddwch hefyd yn ennill sgiliau a phrofiad a fydd yn eich helpu i gyflawni pethau gwych yn yr ysgolmewn addysg bellach ac yn eich cyflogadwyedd wrth chwilio am swydd. 

Yn yr adran hynfe gewch wybodaeth ar sut y gallwch chi gymeryd rhan. Felly peidiwch ac eistedd yn ôl ac aros i newid digwydd – gwnewch i’r newid ddigwydd nawr. 

Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc Ceredigion

Mae’r Grant dan arweiniad Ieuenctid Ceredigion yn cefnogi gweithgareddau a arweinir ac a gyflawnir gan bobl ifanc.  Mae’r gronfa’n helpu i rymuso pobl ifanc i ddatblygu eu mentrau eu hunain, cymryd rhan weithredol yn eu cymunedau a chynnwys/recriwtio pobl ifanc i gymryd rhan mewn prosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli dan arweiniad pobl ifanc yng Ngheredigion. Gweinyddir y Gronfa Grantiau dan Arweiniad Pobl Ifanc gan CAVO ar ran CGGC a Llywodraeth Cymru.

Derbyniodd Ieuenctid Tysul Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc ar gyfer offer garddio fel y gallai pobl ifanc gymryd rhan yn y prosiect tyfu cymunedol, Yr Ardd. Clywch gan rhai o’r pobl ifanc sy’n ymwneud â’r prosiect:

Am mwy o gwybodaeth weld:

Newyddion Diweddaraf