
Os ydych chi’n adnabod gwirfoddolwr sydd wedi gwneud gwaith eithriadol yn ei gymuned sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i eraill neu i’w hunain, yna beth am eu henwebu ar gyfer y wobr bwysig hon? Mae yna 5 categori ar gyfer enwebiadau sef:
Gwobr – Wedi Ceisio Rhywbeth Newydd
Newydd i wirfoddoli? Wedi cymryd rhan yn eich cymuned am y tro cyntaf? Gwirfoddoli ers tro, ond wedi rhoi eich amser i’ch cymuned mewn ffordd gwahanol? Wedi dysgu sgiliau newydd trwy wirfoddoli? Ydych chi’n adnabod rhywun o’r fath sy’n helpu eraill yr hoffech chi enwebu?
Gwobr – Seren Disglair Ifanc
Rhwng 14 – 25 oed? Hoffech chi gydnabod cyfraniad person ifanc sy’n gwirfoddoli yn eich cymuned ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i waith mudiad gwirfoddol? Ydyn nhw wedi mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir?
Gwobr – Caredig Tu Hwnt
Ydych chi’n adnabod unigolyn sydd wedi rhoi rhywbeth arbennig i eraill? Wedi bod mor garedig? Wedi mynd y tu hwnt i eiriau? Gall nhw’n wirfoddoli o fewn mudiad neu’n rhoi eu hamser yn y gymuned yn anffurfiol. Dyma’ch cyfle i ddweud diolch, enwebwch nhw!
Gwobr – Cydweithio
Ydych chi’n gymuned neu’n grŵp o wirfoddolwyr sydd wedi dod ynghyd i helpu eraill yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? A ddaethoch chi ynghyd mewn ymateb i angen eich cymuned? Ydych chi wedi gweithio gyda’ch gilydd i wneud bywyd yn well i’ch cymuned?
Gwobr – Cydlynydd Gwirfoddolwyr y Flwyddyn – cyfle i ddiolch i unigolion sydd mewn rol rheoli gwirfoddolwyr, naill ai yn taledig neu heb dâl.
Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n ysbrydoli gwirfoddolwyr? Yn rhoi rhywbeth ychwanegol i wirfoddolwyr? Yn codi proffil gwirfoddolwyr a gwirfoddoli? Wedi galluogi gwirfoddolwyr i gyflawni eu potensial trwy wirfoddoli? Ydych chi’n adnabod cydlynydd Gwirfoddolwyr yr ydych chi am ddiolch yn arbennig?
Rheolau’r gwobrau
• Rhaid derbyn enwebiadau erbyn Awst 16eg 2021
• Rhaid i enwebeion fod yn gwirfoddoli yng Ngheredigion
• Rhaid ceisio caniatâd yr enwebai.
• Cyhoeddir yr enillwyr gan CAVO ar 5 Hydref 2021 – Diwrnod Bod yn Neis.
• Gellir defnyddio ffotograffau a gwybodaeth am eu gwirfoddoli at ddibenion cyhoeddusrwydd..
• Bydd panel annibynnol o feirniaid sy’n cynnwys staff CAVO, ymddiriedolwyr a chynrychiolwyr y sector gwirfoddol yn gwneud y penderfyniad terfynol ar ennill ceisiadau.
• Ni all gwirfoddolwyr gael eu henwebu eu hunain nac aelod o’r teulu.
• Dim ond ar gyfer un categori y gellir enwebu enwebeion.
Sylwadau Diweddar