Ymgysylltu a Dylanwadu

Mae CAVO yn gweithio i wneud yn siwr fod mudiadau yn gallu dylanwadu polisïau, craffu gwasanaethau cyhoeddus, ac ymddwyn fel y llwybr i gyfranogi dinesig, yn enwedig ar gyfer grwpiau dan anfantais neu lleiafrifoedd
=

Hyrwyddo persbectif trydydd sector mewn partneriaethau strategol

=

Datblygu a chefnogi cyfleoedd rhwydweithio

=

Bod yn fan casglu a dosbarthu gwybodaeth

=

Cefnogi cyfleoedd i sefydliadau gydweithio

I gael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu, cliciwch yma.

Rhwydweithiau

  • Mae Fforwm Anabledd Ceredigionyn lwyfan i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu’r gymuned anabl yng Ngheredigion, ac i archwilio sut y gall polisïau a phenderfyniadau Cyngor Sir Ceredigion helpu i ddatrys problemau i’r gymuned, yn hytrach na’u creu.
  • Mae Cynghrair y Trydydd Sector yn gweithredu fel man cyfarfod a rhwydweithio ar gyfer y trydydd sector a gwasanaethau statudol, gan gynnwys iechyd, yr heddlu a’r cyngor sir
  • Mae Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr Ceredigion (CVON)yn rwydwaith cymorth anffurfiol i sefydliadau sy’n darparu cyfleoedd gwirfoddoli yn y sir i rannu arfer gorau, cymryd rhan mewn digwyddiadau recriwtio a chael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i reoliadau a deddfwriaeth.

 

Newyddion Diweddar

Siarad Iechyd / Talking Health (SI/TH)

Siarad Iechyd / Talking Health yw cynllun cyfranogiad ac ymgysylltu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy'n rhoi cyfle i bobl leol ddweud eu dweud ar sut mae gwasanaethau iechyd lleol yn cael eu cynllunio, eu datblygu a'u darparu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir...

Virtual after work social

Virtual after work social

Ydych chi'n ffansi cwrdd âphobl eraill sydd ag MS ac sy'n gweithio? Gwnewch baned i chi'ch hun ac ymunwch â ni ar zoom i ymlacio, sgwrsio, rhannu awgrymiadau a thrafod beth sy'n bwysig i chi. Rydym yn cyfarfod bob mis ar y trydydd Dydd Mawrth am 6.30 yn Ebostiwch...

Arolwg Asesiad Poblogaeth Gorllewin Cymru 2021

Mae'n rhaid cynnal Asesiadau Poblogaeth bob pum mlynedd, gyda mewnbwn gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, gofalwyr di-dâl a chydweithwyr yn y trydydd sector a'r sector annibynnol. Bydd Asesiad Poblogaeth Gorllewin Cymru nesaf yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Mawrth...

Helpwch Ceredigion i Gysylltu yn ystod Wythnos Dewch Ar-lein

Mae Wythnos Dewch Ar-lein  yn ymgyrch cynhwysiant digidol i roi cyfle i bawb ddod o hyd i'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i wella eu sgiliau digidol a chael cymhelliant i ddysgu mwy. Gall diffyg sgiliau digidol gael effaith negyddol enfawr ar fywyd unigolyn, gan...

Apply for free mobile connectivity to support your charity

Vodaphone are eradicating digital exclusion **Mae'r erthygl hon wedi'i chyflwyno i CAVO yn uniaith Saesneg.** **This article has been submitted to CAVO in English only.** 1.5 million* households in the UK don't have access to digital technology....

Free Bowel Cancer Awareness Talks

**Mae'r erthygl hon wedi'i chyflwyno i CAVO yn uniaith Saesneg.** **This article has been submitted to CAVO in English only.** Bowel cancer is currently the fourth most common cancer in Wales and the second biggest cancer killer. More than 2,300...

Hybiau codi sbwriel cymunedol yn ailagor!

Hybiau codi sbwriel cymunedol yn ailagor!

Gwnewch eich cymuned yn lle glanach a mwy diogel i fyw, chwarae a gweithio.  Mae hybiau codi sbwriel cymunedol Cadwch Gymru’n Daclus bellach wedi ailagor ar hyd a lled Cymru. Maent yn galluogi unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau i fenthyg cyfarpar codi sbwriel i...

Ceisiadau mentorai ar agor!

Ceisiadau mentorai ar agor!

Hoffech chi gymryd mwy o ran mewn bywyd cyhoeddus neu wleidyddol a chael effaith ar y penderfyniadau sy'n effeithio arnoch chi, eich cymunedau a'n cymdeithas? Ydych chi wedi cael llond bol ar beidio â chael eich cynrychioli, gydag ychydig o bobl fel chi yn y Senedd...