Amdanom

Amdanom

Mae CMGC yn hyrwyddo, yn cefnogi ac yn grymuso gweithredu cymunedol gwirfoddol yng Ngheredigion.

Ers 1997, mae Tîm CMGC wedi hyrwyddo a chefnogi gwirfoddolwyr a gweithredu cymunedol gwirfoddol yng Ngheredigion – o ddod o hyd i wirfoddolwyr eu rôl berffaith i roi grantiau ar gyfer prosiectau cymunedol, mae Tîm CMGC yma i helpu.

Fel Cyngor Gwirfoddol Sirol Ceredigion a phartner Cymorth Trydydd SectorCymru, mae CMGC yn gweithio ar draws y pedair colofn allweddol ganlynol o weithgarwch wrth gefnogi’r trydydd sector a gwirfoddolwyr, ac yn ein gwaith gyda phartneriaid statudol allweddol;

Gwirfoddoli

Llywodraethu Da

Ariannu Cynaliadwy

Ymgysylltu a Dylanwadu

Gallwn eich cefnogi i ddatblygu eich grŵp a’ch prosiectau a’ch helpu i recriwtio gwirfoddolwyr newydd. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am yr hyn sy’n digwydd yng Ngheredigion a thu hwnt!

Cefnogwch ni drwy rannu eich llwyddiannau a’ch heriau fel y gallwn gynrychioli’r sector orau a hyrwyddo’r hyn rydych yn ei gyflawni.

Ein Cynnig Cymraeg

  1. Os byddwch yn ein ffonio neu’n ysgrifennu atom yn Gymraeg, byddwn yn delio â’ch ymholiad yn Gymraeg. Os nad yw’r aelod o staff yn siarad Cymraeg, maent yn cynnig trosglwyddo’r alwad i siaradwr Cymraeg pan fo hynny’n bosibl.
  2. Gallwch ddarllen ein holl ddeunydd marchnata ar gyfer prosiectau yn Gymraeg gan ei fod yn cael ei gynhyrchu’n ddwyieithog.
  3. Gallwch edrych ar ein gwefan a chysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg gan fod ein gwefan yn ddwyieithog ac mae ein cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol yn cael ei bostio’n ddwyieithog.
  4. Mae croeso i chi gyfrannu yn Gymraeg yn ein digwyddiadau, byddwn yn cyflwyno ein gweithgareddau mewn ffyrdd sy’n annog y defnydd o’r Gymraeg.
  5. Rydym yn falch iawn bod gennym nifer o staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr sydd â sgiliau iaith Gymraeg ac rydym yn annog staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr i ddangos i’r cyhoedd ein bod yn siarad Cymraeg gydag adnoddau Iaith Gwaith.