Ymddiriedolwyr

John L Jones

John yw Cadeirydd presennol CMGC ac mae wedi bod wrth wraidd Bwrdd CMGC ers 2009. Mae gan John ddiddordeb arbennig mewn gwirfoddoli a thrafnidiaeth gymunedol ac ar hyn o bryd mae’n Ymddiriedolwr Trafnidiaeth Ystwyth Transport ac yn Ymwelydd Annibynnol â’r Ddalfa fel rhan o dîm gwirfoddoli Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Dyfed Powys.

Anne Pratt

Gyda chefndir ariannol proffesiynol a diddordeb mewn materion amgylcheddol, mae Anne wedi bod yn aelod gwerthfawr o’r Bwrdd ers 2009 a hi yw’r Is-gadeirydd presennol. Treuliodd Anne sawl blwyddyn fel Cyfarwyddwr Ymlaen Ceredigion, un o Ymddiriedolwyr Rhwydwaith Agenda 21 Lleol Ceredigion a Chyfarwyddwr Mentro Lluest.

 

William Morris

Mae William wedi bod yn elfen hanfodol o Fwrdd CMGC ers 2011 ac ar hyn o bryd mae’n gweithredu fel Trysorydd. Mae William yn dod â phrofiad helaeth o reoli personél i’r Bwrdd ac mae’n Ymddiriedolwr gweithredol Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru ac yn drysorydd Cangen Caduceus (Gwasanaethau Meddygol) Cymdeithas yr Awyrlu Brenhinol.

 

Dylan Wilson-Lewis

Yn Aelod o’r Bwrdd ers 2020, mae gan Dylan brofiad helaeth ym maes datblygu cymunedol ar lefel leol a chenedlaethol ar ôl bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu Fforwm Cymunedol Penparcau, Cynghorydd Tref Aberystwyth ers 2012 a Chyfarwyddwr Datblygu Cymunedol Cymru. Mae gan Dylan hefyd brofiad llywodraethu gwerthfawr fel Cyfarwyddwr ac Is-gadeirydd Mind Aberystwyth.

 

Os ydych yn teimlo y gallwch gyfrannu at ein gwaith pwysig ac ymuno â Bwrdd CMGC, anfonwch CV at CMGC, Bryndulais, 67, Stryd y Bont, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7AB, e-bostiwch hazel.lloyd-lubran@cavo.org.ukneu cysylltwch gyda Hazel ar 01570 423232 am drafodaeth answyddogol.

Oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i ymuno â ni a gwneud gwahaniaeth?

Mae CMGC yn chwilio am Ymddiriedolwr/Cyfarwyddwyr ychwanegol i ymuno â’n bwrdd a llywio ein tîm bach o staff ymroddedig i gyflwyno rhaglen waith amrywiol, gyffrous a heriol yn y dyfodol.

Diddordeb?

Lawrlwythwch y ffurflen drwy glicio yma neu cysylltwch a Hazel ar:

01570 432 232

hazel.lloyd-lubran@cavo.org.uk