Yn eich cefnogi i ddatblygu strategaethau ariannu
Eich helpu i nodi a mynd ar drywydd cyfleoedd ariannu gan gynnwys Codi Arian, tendro a chymorth rhodd
Hwyluso mynediad uniongyrchol i gyllidwyr a dosbarthu diweddariadau cyllid
Rhedeg cynlluniau grant CMGC
Cydlynu hyfforddiant ariannu
Cynllun Grant Bach CAVO (gan gynnwys Cronfa Pwysau’r Gaeaf)
Mae’r Cynllun Grant Bach CAVO yn cefnogi prosiectau yng Ngheredigion sy’n adeiladu cymunedau cryfach, cefnogi gwirfoddolwyr, gwella amgylcheddau gwledig a threfol neu’n ail-gysylltu pobl â gweithgareddau cymunedol. Gallwch wneud cais am hyd at £2,000 gyda ffurflen gais sy’n un dudalen.
Os yw’ch prosiect o fudd i drigolion Ngheredigion, cysylltwch â ni i drafod eich syniadau!
Gallwch chi lawr-lwythwch y ffurflen gais a’i hanfon at gen@cavo.org.uk mailto:gen@cavo.org.uk neu cysylltwch â ni ar 01570 423232.
Os nad yw’ch prosiect yn addas ar gyfer y Cynllun Grant Bach, byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i gyllidau eraill.
Cynllun Arloesi Cymunedau Gofalgar
Mae’r Cynllun yn galw am syniadau prosiect arloesol yng Ngheredigion sy’n treialu ffyrdd o adeiladu gallu a gwytnwch cymunedol er mwyn datblygu gwasanaethau integredig a chefnogol ar gyfer:
- Pobl fregus a hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia;
- Pobl ag anabledd dysgu
- Plant ag anghenion cymhleth oherwydd anabledd neu salwch
- Gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc.
Bydd y Cynllun yn ystyried ariannu 100% o gostau’r prosiect lan i £20,000. Mae’r cyllid yn bennaf ar gyfer costau refeniw. Rhaid dangos bod unrhyw gostau cyfalaf a gynhwysir yn hanfodol i lwyddiant y model gwasanaeth newydd.
Rydyn ni yn chwilio am brosiectau i gefnogi trwy’r amser felly cysylltwch â ni heddiw i drafod eich syniadau!
Chwilio am gyllid?
Cyllido Cymru yw’r llwyfan i chwilio am gyllid i’r trydydd sector yng Nghymru.
Fe’i datblygwyd gan rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru i alluogi mudiadau trydydd sector i chwilio drwy gannoedd o gyfleoedd am grantiau ac arian benthyg o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Newyddion Diweddar
Cynllun Grant Cynnal y Card
A oes gyda chi unrhyw syniadau ar gyfer cronfa grant LEADER sydd gan Cynnal y Cardi ar hyn o bryd? Mae’r cyfres o ddyddiadau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi’i hymestyn, a'r olaf yw 25ain Gorffennaf 2022. Gall y grant gynnig cyllid refeniw rhwng £1,000 a £10,000, a’i...
Ydych chi’n grŵp cymunedol lleol yn Llanbedr Pont Steffan neu o’i hamgylch?
Mae Cronfa Gymunedol Llambed yn agored i bob grŵp cymunedol lleol sy'n dod o dan y meini prawf cymhwysedd. Mae'r gronfa hefyd yn agored i gwmnïau budd cymunedol a Grwpiau o sefydliadau sy'n cael eu harwain gan y gymuned neu'n wirfoddol sy'n gweithio i wneud...
Eisiau dathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines drwy ddod â phobl at ei gilydd?
Newyddion da - gallwch wneud cais am gyllid hyd at £10,000 drwy ein rhaglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol. Mae’r rhaglen Arian i Bawb bellach yn derbyn ceisiadau sy’n dathlu’r Jiwbilî Platinwm. Dylai’r rhain barhau i fodloni ein nodau safonol a’n meini prawf...
Mae grantiau Gwirfoddoli Cymru nôl!
CGGC newydd ail-lansio ail-lansio cynllun grant Gwirfoddoli Cymru ar gyfer prosiectau a fydd yn cefnogi profiad gwirfoddoli cadarnhaol, yn mynd i’r afael â’r rhwystrau i wirfoddoli ac yn cael effaith hirdymor ar y gymuned. Mae cynllun prif grant Gwirfoddoli Cymru...
Cyfle ariannu newydd i’ch sefydliad
Mae'r tîm yn CAVO yn awyddus i gefnogi eich sefydliad gyda syniadau am ariannu drwy gydol 2022, felly rydym wedi partneru ag easyfundraising i roi'r gallu i chi i ennill arian am ddim drwy siopa ar-lein Sut mae'n gweithio? Mae easyfundraising yn cynnig ffordd o godi...
Anhawster y Gaeaf
Nod y Prosiect Anhawster y Gaeaf, ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw cefnogi’r rhai sy’n cael eu rhyddhau o ysbyty ac yn cael trafferth gyda defnydd digidol yng Nghymru. Mae gennym gronfa fach ar gael i fudiadau cymorth yn y drydydd sector. Gall...
Ychydig yn Helpu
Mae Tesco yn gwahardd Dydd Llun Glas, a adwaenir yn draddodiadol fel diwrnod mwyaf digalon y flwyddyn, drwy lansio ymgyrch i roi hwb i 60 o elusennau a phrosiectau cymunedol. Dros y tair wythnos nesaf, rydym yn galw am geisiadau gan grwpiau ledled y DU a allai elwa o...
Cyllid StreetGames Newydd
Nid oes cyfieithiad Cymraeg o'r erthygl hon ar gael StreetGames have this week launched a new funding opportunity for organisations in Wales – aimed at providing NEW Doorstep Sport and Us Girls sites in underserved communities. Organisations will be able to apply...
Cronfa i Gymru
Cronfa waddol gymunedol genedlaethol yw Cronfa i Gymru sy’n cael ei rheoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae’n hyrwyddiad dyngarol ac yn rhaglen creu grantiau sy’n codi arian oddi wrth bobl a sefydliadau ledled Cymru, y DU a thramor sydd eisiau ‘rhoi’n...
Cronfa Pwysau’r Gaeaf
Rownd newydd Pwysau'r Gaeaf Cronfa Arloesi Cymunedau Gofalgar Ceredigion - nawr ar agor! A oes gennych brosiect neu weithgaredd sy'n helpu i gefnogi pobl yn ystod misoedd y gaeaf sydd angen mwy o arian? A oes gennych syniad newydd sy'n mynd i'r afael a iechyd meddwl,...