Mae gan y Partneriaeth Natur Ceredigion cynllun newydd i adfer a gwella asedau naturiol a darparu natur ar garreg eich drws lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Llywodraeth Cymru drwy Bartneriaeth Natur Ceredigion.

Mae’n rhaid i brosiectau: 

  • Cefnogi gweithgareddau a gweithredoedd sy’n adfer ac yn gwella natur.
  • Creu ‘lleoedd ar gyfer natur’ y gellir eu gweld ‘o’ch stepen drws’. Mae hyn yn cynnwys lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.
  • Canolbwyntio ar ardaloedd o amddifadedd, ardaloedd trefol a pherthnasol a’r rhai heb fawr o fynediad at natur.
  • Canolbwyntio ar gefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a chymunedau difreintiedig.
  • Darparu gwelliannau i fyd natur a phobl gyfeillgar i ofod heb unrhyw effeithiau niweidiol i’r bioamrywiaeth brodorol sydd yno’n barod.
  • Annog cyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedol i alluogi pobl i brofi a gwerthfawrogi natur.

Cyllid cyfalaf yw hwn – gellir ei ddefnyddio i brynu ‘pethau’ ond nid talu am gostau parhaus fel cyflogau neu gostau rhedeg cyffredinol. Rhai syniadau ar gyfer prosiectau posibl yn cynnwys plannu coed stryd, perllannau, dolydd blodau gwyllt neu greu mannau tyfu cymunedol a/neu randiroedd yn eich ardal; creu gofod gwyrdd ar strwythurau ac arwynebau artiffisial mewn ardaloedd trefol; gwella nodweddion mynediad i safleoedd presennol neu safleoedd newydd er mwyn sicrhau’r mynediad teg mwyaf posibl i bawb; neu newid arferion torri i fod o fudd i fioamrywiaeth.

Gwahoddir ceisiadau gan Grwpiau Cyfansoddol, Elusennau Cofrestredig, Cwmnïau, Busnes Preifat a

Sefydliadau’r Sector Cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau er budd natur a chymunedau yng Ngheredigion

Mae hyd at £5,000 fesul cais ar gael, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 30eg Tachwedd 2023.

I wneud cais neu ddarllen mwy am y cynllun, ewch i wefan CAVO  (www.cavo.org.uk/grants/) neu cysylltwch â CAVO ar 01570 423 232 neu grant@cavo.org.uk.

Partneriaeth Natur Ceredigion