Meddyliwch yn ofalus am ba ddull o gyfarfod sy’n gwasanaethu diddordebau eich elusen orau.

Mae’n rhaid i’ch elusen weithredu o fewn rheolau ei dogfen lywodraethu. Os byddwch yn dymuno cynnal cyfarfod o bell, neu ar sail hybrid (gyda rhai cyfranogwyr o bell a rhai wyneb yn wyneb) sicrhewch nad yw’r darpariaethau yn eich dogfen lywodraethu ynghylch cyfarfodydd yn gwahardd hyn. O ystyried newidiadau ynghylch sut mae pobl ac elusennau’n gweithio gan gynnwys y rhai hynny a ysgogwyd gan bandemig Covid, ystyriwch a oes angen diwygio unrhyw ddarpariaethau ar gyfer cyfarfodydd ar-lein, dros y ffôn neu hybrid.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fwy manwl ynghylch cynnwys darpariaethau penodol yn eich dogfen lywodraethu am gynnal cyfarfodydd ar-lein, ffôn neu hybrid yn ein canllawiau ynghylch elusennau a chyfarfodydd.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi gynnal cyfarfod wyneb yn wyneb i wneud y newidiadau hyn.

Os bydd eich elusen yn gwmni elusennol, mae’n rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod yn bodloni’r gofynion o dan Ddeddf Cwmnïau 2006.

Gweler canllawiau pellach, mwy manwl ynghylch newidiadau i ddogfennau llywodraethu ar gyfer elusennau anghorfforedig a chwmnïau elusennol a chanllawiau ar gyfer dogfen lywodraethu i Brif Swyddogion Gwybodaeth. Pan fyddwch yn gwneud newidiadau i’ch dogfen lywodraethu gwiriwch y canllawiau hyn i weld pa ddogfennau y mae angen i chi eu hanfon i’r Comisiwn ac, ar gyfer cwmnïau elusennol, i Dŷ’r Cwmnïau

Mae’n bwysig y cynhelir cyfarfodydd o bell a hybrid yn effeithiol, gydag atebolrwydd a gonestrwydd. Mae’r Chartered Governance Institute wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer cwmnïau ynghylch arfer da ar gyfer cyfarfodydd bwrdd a phwyllgor rhithiol. Gall elusennau nad ydynt yn gwmnïau hefyd ddod o hyd i’r canllawiau defnyddiol hyn gan fod egwyddion tebyg yn gymwys. Mae’r comisiwn yn argymell eich bod yn cynnal o leiaf un cyfarfod wyneb yn wyneb o’r holl ymddiriedolwyr bob blwyddyn.