O fis Ebrill 2024 bydd y Rheoliadau Ailgylchu newydd yn y Gweithle yn dod i rym.  Yn dilyn hynny, o fis Ebrill 2024 bydd y Cyngor yn gweithredu newidiadau i wasanaeth y gwastraff masnachol.  Gweler y daflen sydd wedi’i hatodi sy’n esbonio sut y bydd gwasanaeth y Cyngor yn newid a pha fagiau/tagiau/biniau y bydd angen eu prynu.  Nid oes gennym ddim unrhyw brisiau ar gyfer y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd.  Noder na fyddwn yn defnyddio’r bagiau ailgylchu leilac o fis Ebrill ymlaen na’r bagiau glas yr ydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer Gwastraff Domestig  y Codir Tâl amdano.  Mae’r brandio lliw ar gyfer y tagiau gwastraff gweddilliol yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.

Byddwn yn anfon ffurflenni adnewyddu nodiadau trosglwyddo gwastraff a gwybodaeth ar gyfer 2024/25 maes o law.  Bydd y wybodaeth hyn yn cynnwys y telerau a’r amodau a chostau’r bagiau/tagiau/biniau.

O ddydd Llun 5 Chwefror 2024, dim ond digon o fagiau/tagiau ar gyfer eich gofynion gwaredu gwastraff hyd at ddechrau mis Ebrill y byddwch yn gallu eu prynu, pan fydd y gwasanaeth newydd yn dod yn weithredol.

Os oes gennych chi fagiau/tagiau heb eu defnyddio, y gwnaethoch chi eu prynu yn ystod blwyddyn wasanaeth 2023/2024, byddwch yn gallu gofyn am ad-daliad a bydd y bagiau/tagiau yn cael eu casglu.