Cymdeithas mudiadau gwirfoddol Ceredigion

CAVO

Mae CAVO yn hyrwyddo ac yn cefnogi gweithredu cymunedol gwirfoddol ledled Ceredigion.

Os ydych eisoes yn cymryd rhan neu os hoffech fod yn rhan o’r sector cymunedol gwirfoddol yng Ngheredigion; GALLWN eich helpu i wireddu syniadau newydd a chefnogi eich grŵp a’ch prosiectau i symud ymlaen

Amdanom

Aelodaeth CAVO

Mae amrywiaeth o fanteision i ddod yn aelod o CAVO

Manteision Aelodaeth:-

Mae gan aelodau fynediad llawn i wasanaethau ariannu a datblygu CAVO
Llai o ffioedd ar gyfer ein cyrsiau hyfforddi
Ffioedd llai am logi ystafelloedd
Llogi offer fel siartiau troi, taflunydd digidol a sgrin, byrddau arddangos.
Ffioedd llai ar gyfer rhai gwasanaethau swyddfa megis llungopïo a ffacsio.

Pwy yw CAVO?

Mae CAVO yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer

  • Sefydlu a rhedeg grŵp
  • Arian
  • Datblygu prosiectau
  • Datblygu arfer gorau
  • Gwirfoddoli
  • Cyngor ar faterion yn ymwneud â rheoli gwirfoddolwyr
  • Dod a grwpiau ynghyd i ddylanwadu ar wasanaethau a strategaethau
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i grwpiau am ddatblygiadau gan greu cyfleoedd rhwydweithio
i

NEWYDDION

Newyddion

Lansio Cynllun Cymunedau’n Cyfrif!

Lansio Cynllun Cymunedau’n Cyfrif!

Rydym yn falch i gyhoeddi lansiad ein cynllun newydd, Cyfumynedau’n Cyfrif! Mae hwn yn gyfle unigryw i grwpiau a mentrau cymdeithasol sy’n gweithgard yn Ceredigion gael cymorth ariannol i drefnu gweithgareddau i wella sgiliau rhifedd o fewn eu cymuned Pam "Cymunedau’n...

Cynnal cyfarfodydd ar-lein neu dros y ffôn

Cynnal cyfarfodydd ar-lein neu dros y ffôn

Meddyliwch yn ofalus am ba ddull o gyfarfod sy’n gwasanaethu diddordebau eich elusen orau. Mae’n rhaid i’ch elusen weithredu o fewn rheolau ei dogfen lywodraethu. Os byddwch yn dymuno cynnal cyfarfod o bell, neu ar sail hybrid (gyda rhai cyfranogwyr o bell a rhai...

Llywodraethu Da

Mae CAVO yn gweithio i gefnogi sefydliadau i gydymffurfio ag arferion llywodraethu da.

Ariannu Cynaliadwy

Mae CAVO yn gweithio i sicrhau trydydd sector ffyniannus a chynaliadwy lle mae sefydliadau’n sicrhau ac yn cynhyrchu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i oroesi, ffynnu ac aros yn berthnasol yn y dyfodol.

Ymgysylltu a Dylanwadu

Mae CAVO yn gweithio i sicrhau y gall sefydliadau ddylanwadu’n effeithiol ar bolisi, craffu ar wasanaethau cyhoeddus a gweithredu fel llwybr at gyfranogiad dinesig yn enwedig ar gyfer grwpiau difreintiedig a lleiafrifol.

Gwirfoddoli

Mae CAVO yn darparu gwybodaeth i gefnogi trigolion Ceredigion sydd am wirfoddoli a sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr.

Astudiaethau Achos

Darllen ein astudiaethau achos diweddar

Beth yw

Cymorth Trydydd Sector Cymru

Rhwydwaith o sefydliadau cymorth ar gyfer y trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cymorth Trydydd Sector Cymru. Mae’n cynnwys y 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGSau) a’r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

Rydym yn gweithio gyda dinasyddion, gwirfoddolwyr a grwpiau trydydd sector i nodi a mynd i’r afael â’r hyn sy’n bwysig iddynt.

 

 

Datganiad Cenhadaeth CAVO

Mae CAVO yn hyrwyddo ac yn cefnogi gweithredu cymunedol gwirfoddol ledled Ceredigion.

Os ydych eisoes yn cymryd rhan neu os hoffech fod yn rhan o’r sector cymunedol gwirfoddol yng Ngheredigion;

GALLWN eich helpu i wireddu syniadau newydd a chefnogi eich grŵp a’ch prosiectau i symud ymlaen. Byddwn hefyd yn eich helpu i gael gwirfoddolwyr newydd a rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd yng Ngheredigion a thu hwnt! Byddwn hefyd yn eich helpu i gael gwirfoddolwyr newydd a rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd yng Ngheredigion a thu hwnt!

GALLWCH ein cefnogi drwy roi gwybod i ni am eich llwyddiannau a’ch pryderon fel y gallwn gynrychioli’r sector yn wirioneddol a hyrwyddo’r gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud.

Llynedd, gwnaeth CAVO cefnogi…

ymholiadau am wirfoddoli

Pobl mynychodd digwyddiadau CAVO

Grwpiau gyda Chyngor Uniongyrchol

punt o cyllid a gyrchir gan grwpiau

Cysylltwch

Lleoliad: Bryndulais, Heol y Bont, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AB

Rhif Ffôn: 01570 423 232

E-bost: gen@cavo.org.uk

Llun-Iau 9.30yb i 4.30yp; Gwener 9.30yb i 4.00yp

Oriau Agor y Swyddfa: dydd Llun & dydd Iau