Gwobrau Gwirfoddolwyr CAVO

Gwobrau Gwirfoddoli CAVO 2024

Dathlu gwirfoddolwyr rhagorol ledled Ceredigion a’r gwahaniaeth arbennig y maent wedi’i wneud ym mywydau pobl! 

Mae Gwobrau Gwirfoddoli Ceredigion 2024 yn cael eu cydlynu gan CAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion), gyda’r diben o gydnabod a dathlu’r gwahaniaeth gwirioneddol y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i gymunedau yng Ngheredigion ac iddyn nhw eu hunain. 

I fod yn gymwys ar gyfer enwebiad, mae’n ofynnol i enwebeion wirfoddoli i elusen, grŵp cymunedol, neu fudiad tebyg. Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys, cysylltwch â CAVO.

Darllenwch y wybodaeth yn ofalus a defnyddiwch y ddalen ‘Awgrymiadau Gorau’ a ddarparwyd. 

 Mae 6 chategori ar gyfer enwebiadau yn 2024: 

  • Gwobr GwirfoddoliCyflawniad Eithriadol 

  • Gwobr GwirfoddolwyrTîm 

  • Gwobr Gwirfoddolwyr – Person Ifanc 

  • Gwobr GwirfoddolwyrYmddiriedolwr 

  • Gwobr GwirfoddolwyrCydlynydd 

  • Gwobr Gwirfoddolwyr – 40 mlynedd o wasanaeth 

  • Gwobr GwirfoddoliCyflawniad Eithriadol  

Rhoddir i wirfoddolwr unigol sydd wedi cyfrannu trwy ei gwaith gwirfoddol at lles a budd eu cymuned. Gallai hwn fod yn unigolyn a helpodd ei gymydog neu a ddaeth ymlaen mewn argyfwng i helpu rhywun yn eu cymuned neu wirfoddoli o fewn mudiad.

  • Gwobr GwirfoddoliTîm 

Ar gyfer dau neu fwy o wirfoddolwyr neu sydd wedi dangos gwaith tîm gwych, wedi darparu cefnogaeth ac anogaeth i wirfoddolwyr eraill, ac wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol trwy gydweithio.

  • Gwobr Gwirfoddoli – Person Ifanc 

Ar gyfer gwirfoddolwyr o dan 25 oed sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl ac sydd wedi defnyddio eu profiad gwirfoddoli eu hunain i ysbrydoli eraill.

  • Gwobr GwirfoddoliYmddiriedolwr 

Mae’r wobr hon yn dathlu ymddiriedolwr sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i waith elusen, grŵp cymunedol, mudiad gwirfoddol, neu fenter gymdeithasol.

  • Gwobr GwirfoddoliCydlynydd Gwirfoddolwyr 

Rhoddir i gydlynydd unigol, rheolwr neu arweinydd gwirfoddolwyr (rôl gyflogedig neu ddi-dâl). Darparwch dystiolaeth dda pam mae’r mudiad hwn yn gwerthfawrogi ei wirfoddolwyr a sut mae’r cydlynydd yn dangos hyn.

  • Gwobr Gwirfoddoli – 40 mlynedd o wasanaeth 

I ddathlu llwyddiant 40 mlynedd Wythnos Gwirfoddoli, mae gwobr nodedig wedi’i sefydlu i gydnabod sefydliadau neu unigolion sydd wedi neilltuo 40 mlynedd neu fwy i wasanaethu’r gymuned.

RHAID derbyn enwebiadau erbyn 12pm 1 Mai 2024. Bydd CAVO yn cysylltu â’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol a’u cyhoeddi yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr 3-9 Mehefin 2024. Rhaid i bob unigolyn a enwebwyd wirfoddoli yng Ngheredigion neu wirfoddoli ar gyfer cymuned yng Ngheredigion neu sefydliad dielw. 

Bydd panel annibynnol o feirniaid sy’n cynnwys staff CAVO, ymddiriedolwyr a chynrychiolwyr y sector gwirfoddol yn gwneud y penderfyniad terfynol ar ennill ceisiadau. 

Gellir dod o hyd i’r ffurflen enwebu ymahttps://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=0D7p923rJUGAuZs7g2XUQAlNcupu1CZKoo6GYRyv_M9UMlI0NzlCNjBKNkxQMzY1VlNKTlExWTczTi4u  

Awgrymiadau da ar gyfer llenwi ffurflen enwebu’r Gwobrau Gwirfoddoli. 

Bod yn benodol 

  • Mae’r ffurflen enwebu yn gofyn cwestiynau penodol mewn ymdrech i greu darlun llawn o’r gwirfoddolwr/gwirfoddolwyr rydych chi’n eu henwebu. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb pob un o’r cwestiynau mor benodol â phosibl.
  • Lle y bo’n bosibl, dylech gynnwys manylion am y cyfraniad y mae eich enwebai/enwebeion yn ei wneud.
  • Dylech osgoi dweud “llawer” o flynyddoedd neu oriau.
  • Rhannu enghreifftiau penodol e.e:
  • Mae John Smith wedi bod yn gwirfoddoli gyda ni ers 7 mlynedd. Mae’n gwirfoddoli gyda ni ddwywaith yr wythnos am 3 awr y sesiwn

Peidiwch â Chymryd yn ganiataol…. 

  • Rydych chi’n adnabod eich gwirfoddolwr/gwirfoddolwyr a’r hyn maen nhw’n ei wneud. Bydd y panel beirniadu yn adeiladu llun o’ch gwirfoddolwr o’r wybodaeth ar y ffurflen felly dylech gynnwys gymaint o fanylion â phosibl.
  • Meddyliwch am y panel beirniadu fel ymwelwyr o blaned arall.
  • Byddant yn cael y dasg o ddarllen drwy bob cais, gan ddyfarnu marciau yn seiliedig ar yr hyn rydych wedi’i ysgrifennu. Hyd yn oed os yw barnwr panel yn ymwybodol o’ch gwaith ni fyddant yn gallu dyfarnu marciau oni bai ei fod wedi’i ysgrifennu ar y ffurflen. Yr hawsaf y gallwch ei gwneud hi i’r beirniaid sgorio’r ffurflen enwebu yr uchaf yw’r siawns o ennill.

Adeiladu llun 

  • Rhannwch enghreifftiau penodol o weithgareddau y mae eich gwirfoddolwr wedi bod yn rhan ohonynt a dod â’u profiad gwirfoddoli yn fyw.
  • Dywedwch eu stori.
  • Dyma’ch cyfle i ddweud wrthym pam mae eich gwirfoddolwr/gwirfoddolwyr yn haeddu ennill gwobr.
  • Mae cwestiynau ar y ffurflen a’r bylchau ar gyfer eich ateb – gallwch deipio cymaint ag y gallwch yn y blychau hyn.
  • Atebwch bob cwestiwn a gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi digon o wybodaeth ar gyfer y categori/categorïau rydych wedi’u dewis ar gyfer y gwirfoddolwr/wyr.
  • Cofiwch y mwyaf o enghreifftiau a manylion a roddwch, y siawns orau sydd gan y gwirfoddolwr/gwirfoddolwyr rydych chi’n eu henwebu o ennill!

Methu perswadio eich gwirfoddolwyr?? 

  • Mae cymaint o wirfoddolwyr ddim yn credu eu bod yn gwneud unrhyw beth arbennig – rydym am eu hatgoffa bod yr hyn a wnânt yn anhygoel. Mae gwirfoddolwyr yn gwneud gymaint i Geredigion.
  • Cofiwch y bydd enwebu eich gwirfoddolwr yn gyhoeddusrwydd da i’ch sefydliad a bydd y rhan fwyaf o wirfoddolwyr yn hapus i hyrwyddo’r sefydliad os ychydig yn swil i’w hyrwyddo eu hunain.
  • Felly beth ydych chi’n aros amdano i gael yr enwebiadau hynny i mewn ar gyfer Gwobrau Gwirfoddoli CAVO.

Nodwch y dyddiad….. 

  • Rhaid derbyn enwebiadau erbyn 12yp 1af o Fai 2024 drwy’r ffurflen ar-lein (linc isod). Os nad ydych yn gallu cwblhau yr enwebiad ar-lein, mae yna copi papur ar gael hefyd. Cysylltwchgen@cavo.org.uk a dychwelyd erbyn y dyddiad cau.   

Peidiwch â Anghofio…. 

  • Rhaid i bob unigolyn a enwebir wirfoddoli yng Ngheredigion neu wirfoddoli i sefydliad sydd wedi’i leoli yng Ngheredigion.
  • Rhaid gofyn am ganiatâd gan y sawl a enwebwyd
  • Bydd yn ofynnol i’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol o’r gwobrau ganiatáu i’w ffotograffau a’u gwybodaeth am eu gwirfoddoli gael eu defnyddio at ddibenion cyhoeddusrwydd.
  • Ni all gwirfoddolwyr unigol enwebu eu hunain nac aelod o’r teulu am wobr gwirfoddolwyr unigol.
  • Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch ym mhob adran sy’n berthnasol i gategori/au’r Wobr, mae lleoedd islaw pob cwestiwn i deipio eich ateb – mae’r rhain yn ehangu fel y gallwch ysgrifennu cymaint ag y mae angen i chi ei wneud.
  • Os oes angen help arnoch gyda’r ffurflen neu os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â’r Tîm Gwirfoddoli yn CAVO ar 01570 423 232 / gen@cavo.org.uk cyn 1af o Fai!