Cyfle i chi weld sut mae Safle We Gwirfoddoli newydd yn gweithio.
Gyda gwefan newydd Gwirfoddoli Cymru yn cael ei lansio, dyma’ch cyfle i ddysgu am y wefan newydd a gofyn unrhyw gwestiynau.
Byddwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio’r wefan gan gynnwys nodweddion newydd a byddwch yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Bydd hyn yn eich galluogi i wneud defnydd llawn o’r wefan newydd a’r cyfleoedd y mae’n eu cyflwyno ar gyfer recriwtio gwirfoddolwyr.