Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ŵyl flynyddol ledled y DU sy’n dathlu gwirfoddolwyr, ac mae’n cael ei chynnal rhwng 1 a 7 Mehefin bob blwyddyn. Mae ymgyrch Wythnos y Gwirfoddolwyr yn wythnos arbennig, lle caiff mudiadau gwirfoddol eu hannog i ddiolch i’w gwirfoddolwyr.
Mae gwirfoddolwyr yn rhan greiddiol o waith llawer iawn o elusennau a mudiadau eraill. Maen nhw’n bresenoldeb gwerthfawr mewn nifer o gymunedau, ac maen nhw’n gwneud gwahaniaeth mewn meysydd amrywiol fel chwaraeon, clybiau, llyfrgelloedd, ysgolion, coetiroedd ac ysbytai.
Mae’r ymgyrch flynyddol, a sefydlwyd yn 1984, yn cydnabod y cyfraniad mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn ein cymunedau bob dydd. Eleni, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n cydnabod gwirfoddolwyr ein gwlad.
Gobeithio y bydd unigolion ledled pob sector yng Nghymru yn uno i rannu negeseuon er mwyn diolch i wirfoddolwyr a dathlu grym gwirfoddolwyr o ran dod â chymunedau at ei gilydd a bod yno pan mae eu hangen ar bobl.
I lawer o fudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr, bydd yr wythnos hefyd yn gyfle i roi gwybod i ddarpar wirfoddolwyr am yr amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn. Bydd y rheini sydd â diddordeb yn cael eu gwahodd i’r platfformau gwirfoddoli ar-lein sydd ar gael ym mhob gwlad i weld beth sydd ar gael. Yng Nghymru, caiff unigolion eu gwahodd i fynd i www.volunteering-wales.net.
Cadwch lygad allan am ddigwyddiadau, cyhoeddiadau a dathliadau CAVO trwy’r wythnos!
Tuesday 1st June: Volunteers’ Week Launch – A Time to Say Thanks CAVO Workshop: Welcoming back volunteers. Click here for more details Wednesday 2nd June: Power of Youth Day Thursday 3rd June: Employer Supported and Skilled Volunteering Day CAVO Workshop: How to retain volunteers. Click here for more details Friday 4th June: Looking Back, Moving Forwards Saturday 5th June: Environment and Conservation Day (to coincide with World Environment Day) Sunday 6th June: The Big Lunch (Eden Project Communities) Monday 7th June: Reviewing Volunteers’ Week
Byddwn yn cynnal digwyddiadau trwy’r wythnos gan gynnwys:
Dydd Mawrth 1 Mehefin: Croesawu gwirfoddolwyr yn ôl. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.cavo.org.uk/event/welcoming-back-volunteers/
Dydd Iau 3ydd Mehefin: Sut i gadw gwirfoddolwyr. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.cavo.org.uk/event/volunteers-week-2021-how-to-retain-volunteers/
Byddem wrth ein bodd i clywed am sut ydych chi’n dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr felly gwnewch siŵr eich bod chi’n ein tagio mewn unrhyw bostiadau ar gyfryngau cymdeithasol (@cavoceredigion) a defnyddio’r hashtags #VolunteersWeek #TimetoSayThanks #WythnosGwirfoddolwyr #AmserDweudDiolch.
Click here to download the WCVA Campaign pack
Click here for more Volunteers’ Week Resources