Falle eich bod am ddiogelu’r amgylchedd, gwella iechyd meddwl, brwydro yn erbyn hiliaeth, cefnogi pobl fregus yn eich gymuned neu rhywbeth hollol wahanol, gallwch chi gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae yna llawer o wahanol ffyrdd y gallwch gwneud hyn.
Trwy weithredu, byddwch nid yn unig o fudd i’ch gymuned, byddwch hefyd yn ennill sgiliau a phrofiad a fydd yn eich helpu i gyflawni pethau gwych yn yr ysgol, mewn addysg bellach ac yn eich cyflogadwyedd wrth chwilio am swydd.
Yn yr adran hyn, fe gewch wybodaeth ar sut y gallwch chi gymeryd rhan. Felly peidiwch ac eistedd yn ôl ac aros i newid digwydd – gwnewch i’r newid ddigwydd nawr.
Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc Ceredigion
Mae’r Grant dan arweiniad Ieuenctid Ceredigion yn cefnogi gweithgareddau a arweinir ac a gyflawnir gan bobl ifanc. Mae’r gronfa’n helpu i rymuso pobl ifanc i ddatblygu eu mentrau eu hunain, cymryd rhan weithredol yn eu cymunedau a chynnwys/recriwtio pobl ifanc i gymryd rhan mewn prosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli dan arweiniad pobl ifanc yng Ngheredigion. Gweinyddir y Gronfa Grantiau dan Arweiniad Pobl Ifanc gan CAVO ar ran CGGC a Llywodraeth Cymru.
Derbyniodd Ieuenctid Tysul Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc ar gyfer offer garddio fel y gallai pobl ifanc gymryd rhan yn y prosiect tyfu cymunedol, Yr Ardd. Clywch gan rhai o’r pobl ifanc sy’n ymwneud â’r prosiect:
Am mwy o gwybodaeth weld:
Newyddion Diweddaraf
No Results Found
The page you requested could not be found. Try refining your search, or use the navigation above to locate the post.