Dydd Iau, 18.11.2021 am 1.30yp
Dewch i glywed mwy am Gronfa Waddol Dr Dewi Davies – mae’r cynllun ariannu hwn ar agor ar hyn o bryd ac yn chwilio am geisiadau i gefnogi. Maent yn rhoi cymorth i:
- Grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi ac ynysu gan gynnwys tlodi tanwydd a phroblemau gwledig
- Prosiectau sy’n gweithio gyda’r genhedlaeth hŷn i leihau unigrwydd
- Grwpiau a sefydliadau sy’n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo a dysgu’r Iaith Gymraeg, Diwylliant Cymreig a Threftadaeth Gymreig
- Magu hyder ac ehangu gorwelion unigolion nad oes ganddynt lawer o adnoddau
- Unigolion talentog er mwyn iddynt ddilyn eu dyheadau e.e. bwrsariaethau, cyfarpar, offerynnau
Darllenwch fwy am y gronfa a gwiriwch eich bod o fewn ardal cymhwysedd wedi’i thargedu yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion. https://communityfoundationwales.org.uk/grants/dr-dewi-davies-endowment-fund/
Archebwch eich lle: https://bit.ly/3k0vjdQ