Edrych ar y strwythurau a fydd yn cefnogi gweithgareddau diogelu o fewn eich mudiad, a rôl cynllun hyfforddi.
Mae argyfwng COVID-19 wedi achosi nifer o broblemau diogelu i fudiadau gwirfoddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel sut i addasu gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl a allai fod mewn perygl a sut i gadw staff, buddiolwyr a gwirfoddolwyr yn ddiogel yn y sefyllfa hon. Ni fu’r frawddeg “Mae cyfrifoldeb ar bawb i ddiogelu” erioed mor berthnasol.
Bydd ein gweminar Wythnos Ddiogelu (15 – 19 Tachwedd) yn trafod yr elfennau strwythurol a allai fynd i’r afael â’r problemau diweddar a gwella arferion diogelu yn sgil hynny.
Mae diogelu da a phriodol yn tawelu meddwl y cyhoedd am eich mudiad ac yn cyfrannu at enw da’r sector gwirfoddol yn gyffredinol.