Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan Gofalwyr Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru. Bydd y digwyddiad yn cyflwyno’r cyfleoedd y gall cydweithredu trwy fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol eu cynnig i gefnogi gofalwyr di-dâl yn eu rôl ofalu.
Byddwn yn egluro beth yw mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol cymunedol, sut y gallant edrych ar gyfer gofalwyr wrth ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o wella lles a dylanwadu ar y ffyrdd y mae anghenion yr unigolyn / unigolion sy’n derbyn gofal yn cael eu diwallu. Mae mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol cymunedol yn rhoi cyfle i sicrhau bod gofal yn wirioneddol adlewyrchu anghenion a gofynion gofalwyr.
Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i drafod syniadau a chyfleoedd posibl ar gyfer sefydlu mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol dan arweiniad gofalwyr yng Nghymru.
Bydd ein Canllaw Menter Gymdeithasol newydd ar gyfer Gofalwyr yn cael ei anfon at bawb sy’n mynychu.