Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Cyflwyniad i GDPR i’r trydydd sector

12th Hydref 2021 @ 10:00 am - 1:00 pm

Cyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg

Amcanion

Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn rhoi gwybodaeth allweddol i chi am y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol newydd, gan sicrhau y gall eich mudiad gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth bwysig hon.

Cynnwys

Ar 25 Mai 2018 cafwyd y newid mwyaf yn y ddeddfwriaeth diogelu data ers ugain mlynedd pan gyflwynwyd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). O ystyried yr effaith sylweddol y mae data yn ei chael ar ein bywydau personol a phroffesiynol, a’r rôl mae’n ei chwarae ynddynt, mae GDPR yn darparu set o ddeddfau i geisio sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu cynnal wrth ddiogelu data yn eich gwaith. Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â meysydd allweddol y rheoliad newydd ac yn rhoi trosolwg cyflawni i chi o GDPR. Bydd yn helpu’r rheini sy’n trin gwybodaeth pobl i allu mabwysiadu’r arferion hyn o fewn eu mudiad.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn gallu:

  • Defnyddio terminoleg allweddol Diogelu Data yn hyderus
  • Enwi’r prif newidiadau a gyflwynwyd gan GDPR
  • Defnyddio’r wybodaeth i gyflawni’ch rôl mewn ffordd sy’n cydymffurfio â GDPR
  • Egluro sut i lunio hysbysiad preifatrwydd
  • Disgrifio’r prif resymau pam mae elusennau wedi’u dirwyo gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Ar gyfer pwy mae’r cwrs

Bwriedir y cwrs hwn i unrhyw aelod o staff sy’n trin data personol fel rhan o’u gwaith bob dydd, i arweinwyr diogelu data, ac i unrhyw un sydd â diddordeb cyffredinol yn y newidiadau a gyflwynwyd gan y drefn newydd ar gyfer diogelu data.

AM ragor o wybodaeth ewch i’r wefan WCVA.

Details

Date:
12th Hydref 2021
Time:
10:00 am - 1:00 pm
Event Category:
Website:
https://wcva.cymru/cy/training-events/cyflwyniad-i-gdpr-ir-trydydd-sector/