Mae’r tîm yn CAVO yn awyddus i gefnogi eich sefydliad gyda syniadau am ariannu drwy gydol 2022, felly rydym wedi partneru ag easyfundraising i roi’r gallu i chi i ennill arian am ddim drwy siopa ar-lein
Sut mae’n gweithio?
Mae easyfundraising yn cynnig ffordd o godi arian sy’n hawdd a rhad ac am ddim ac nad yw’n gofyn llawer o ymdrech gennych chi, ac mae’n troi pryniannau ar-lein yn rhoddion am ddim i’ch sefydliad. Gallwch gofrestru am ddim a’i ddefnyddio am ddim, felly mae’n gyfle gwych i greu ffrwd ariannu ychwanegol o rywbeth y mae pawb yn ei wneud eisoes – siopa ar-lein.
Trwy easyfunding, bydd mwy na 6,000 o fanwerthwyr ar-lein gan gynnwys Amazon, eBay ac M&S, Sainsbury’s, Booking.com, Aldi, Trainline ac Argos yn rhoi rhodd am ddim i’ch sefydliad pan fydd eich gwirfoddolwyr, staff a chefnogwyr yn siopa gyda nhw. Gall unrhyw beth, o’ch siopa bwyd wythnosol i wyliau teuluol, gynhyrchu rhodd am ddim i’ch sefydliad.
Dechrau Arni
I ddechrau arni, sefydlwch dudalen easyfundraising am ddim i’ch sefydliad – dim ond ychydig funudau y mae hyn yn ei gymryd.
Bydd easyfundraising yn rhoi llawer o gymorth i chi i’ch helpu i gychwyn a chodi cymaint o arian â phosibl. Gallwch hyd yn oed gael galwad un-i-un am ddim gydag un o’r tîm i weld sut i ddefnyddio’r safle a chael cyngor a chymorth i godi arian.
Cwestiynau Cyffredin
A oes angen i ni fod yn elusen i ddefnyddio easyfundraising?
Nac oes, mae’n agored i bob grŵp gwirfoddol, sefydliadau cymunedol, cwmnïau buddiannau cymunedol a mentrau cymdeithasol o bob maint a siâp – does dim rhaid i chi fod yn elusen
A yw’n rhad ac am ddim?
Ydy, does dim ffioedd cofrestru, costau misol na thaliadau cudd. Mae easyfundraising yn gwbl rad ac am ddim i’ch sefydliad a’ch cefnogwyr ei ddefnyddio – ac ni fydd eich cefnogwyr yn talu ceiniog yn fwy ar eu siopa chwaith.
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnom i sefydlu ein tudalen am ddim?
Dim ond eich enw, eich cyfeiriad e-bost ac enw eich sefydliad. Gallwch hefyd gynnwys disgrifiad byr o’ch sefydliad a logo os ydych am wneud hynny. Bydd angen i chi hefyd adael i easyfundraising wybod sut i dalu eich rhoddion, ond gallwch ychwanegu’r manylion hynny yn nes ymlaen os nad ydyn nhw wrth law gennych.
Cliciwch yma i sefydlu eich tudalen – mae’n cymryd 2 funud
Sylwadau Diweddar