Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi darparu datganiad polisi, “Gwirfoddoli ac Asesu Gallu i Weithio” (Saesneg yn unig) ar gyfer ateb cwestiynau gan wirfoddolwyr a hawlwyr budd-daliadau lles, ond nid yw’n edrych fel petai’r canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi yn <https://www.gov.uk/guidance/volunteering-and-claiming-benefits> ar GOV.UK (Saesneg yn unig) yn mynd i’r afael â hyn.

Mae CGGC a’n partneriaid yn Fforwm Gwirfoddoli’r DU (NCVO, Volunteer Scotland a Volunteer NI) yn awyddus i ddeall a yw’r datganiad polisi yn tawelu meddwl pobl. Mae cydweithwyr yn Volunteer Glasgow yn gweithio gyda ni i gynnal arolwg o bobl sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol. Byddwn ni’n defnyddio’r canfyddiadau i lywio ein gwaith polisi gyda’r DWP er mwyn sicrhau bod arweiniad clir i wirfoddolwyr yng nghyd-destun ymdrechu ar y cyd i leihau anghydraddoldebau wrth geisio cymryd rhan mewn gwirfoddoli.

Os hoffech chi gael copi o ddatganiad polisi’r DWP ac yn gallu annog y bobl rydych chi’n eu hadnabod a allai fod wedi cael eu heffeithio i gwblhau’r arolwg hwn, cofrestrwch eich manylion cyswllt nawr (erbyn 27 Mawrth fan bellaf): https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSezjrVm7Kgc0UXNe-8bSTzhUzP3T30WQ3w8LgF-WsbTmMr7RA/viewform

Mae Volunteer Glasgow wrthi’n casglu ymatebion arolwg a’u dadansoddi gyda chymorth Fforwm Gwirfoddoli’r DU (NCVO, Volunteer Now, Volunteer Scotland ac CGGC) ac mewn partneriaeth â Rhwydwaith ‘Third Sector Interface’ (TSI) yr Alban.