DIPYN BACH O GEFNDIR AM NEUADD BUDDUG-VENUE LLAMBED

Canolfan gymunedol newydd ei adfer yw Neuadd Buddug-Venue Llambed sydd yn cael ei reoli gan Grŵp Datblygu Cymuned Llambed. Wedi ei leoli ar waelod Heol y Bryn ac yn gyfleus ar gyfer canol y dref a’r Brifysgol, mae’r ganolfan yn cynnig sawl ystafell fawr ar gyfer eu hirio gan grwpiau lleol, gofod theatr gyda llwyfan sylweddol, system goleuo a sain yn ogystal ag adnoddau cefn llwyfan ar gyfer perfformiadau. Gobaith y Grŵp yw bydd y ganolfan yn cael ei defnyddio unwaith eto gan aelodau o’r gymuned agos ac eraill ar gyrion y dref, gan roi Llambed ar fap digwyddiadau cenedlaethol yn ogystal â gwasanaethu grwpiau llawr gwlad lleol sydd wedi darganfod eu hunain heb safle yn ddiweddar.

Mae sawl mudiad cymunedol yn rhedeg gwasanaethau allgymorth yn y Neuadd megis Undeb Credyd Save easy, DASH a Phrosiect Bwyd Llambed ynghyd â Grŵp Theatr Ieuenctid Stage Goats a Grŵp Dawnsio Dynamik.

ENNILL

SUT BYDD Y GWIRFODDOLWYR YN ENNILL CREDYDAU AMSER TEMPO

Er gwaetha’r pandemig, mae Prosiect Bwyd Llambed wedi boid yn rhedeg yn y neuadd ers dros i flwyddyn a chant y cant yn ddibyniadwy ar ymdrechion y gwirfoddolwyr. GHyda’r gwaith o gasglu bwyd wedi ei roddi o’r archfarchnadoedd lleol, didoli’r bwyd a’i roi mewn bocsys yn ôl gofynion y derbynnydd, trefnu casgliadau a dosbarthiadau-hyn oll o dan lygaid barcud Rachelle Dearden-Cook sydd yn gyfrifol am y prosiect.

DEFNYDDIO

SUT BYDD DAVID YN DEFNYDDIO CREDYDAU AMSER TEMPO

Dywed David ei fod wrth ei fodd yn derbyn Credydau Amser Tempo gan eu bod yn gwneud iddo deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi fel gwirfoddolwr ac hefyd yn help i ymestyn ei arian wythnosol ymhellach. Droes y pandemig, mae o wedi parhau i wirfoddoli ac yn ddiweddar yn falch iawn ei fod wedi medru prynu siopa gyda’r talebau uwchfarchnad yn ogystal â phrynu atodiad ffôn symudol ac mae hyn wedi helpu sefyllfa ariannol ei deulu.

BUDDION

Neges gan John Moore, Ymddiriedolwr Neuadd Buddug-Venue Llambed :

“Er taw dim ond ar gychwyn ein taith gyda Credydau Amser Tempo ryda ni fel neuadd, rydym yn medru gweld y buddion o’u defnyddio gyda’n gwirfoddolwyr cyfredol yn barod yn ogystal â’r potensial i’w defnyddio i helpu ni i recriwtio gwirfoddolwyr newydd, gyda’n bwriad ni i edrych ar raglan o ddigwyddiadau yn cynnwys perfformiadau, adloniant teulu, boreau coffi, ffeiriau crefftau a llawer mwy yn ogystal a hirio’r neuadd ar gyfer defnydd grwpiau lleol. Rydym hefyd yn bwriadu ymuno fel Partneriaid Cydnabyddiaeth er mwyn i ni fedru derbyn Credydau Amser i’w cyfnewid am docynnau mynediad ar gyfer digwyddiadau, defnyddio’r neuadd fel adnodd cymunedol neu wasanaethau megis rhedeg y bar neu gegin ar gyfer digwyddiadau allanol.”