Bydd llawer ohonoch hefyd yn ymwneud â threfnu digwyddiadau cymunedol ar hyn o bryd, cofiwch y canlynol i sicrhau fod pawb sy’n cymryd rhan yn cadw’n ddiogel;

  • llunio Asesiad Risg i’ch helpu i weithio drwy’r newidiadau y mae angen i chi eu hystyried.
  • sicrhau bod pobl yn gwisgo gorchudd wyneb
  • atgoffa pobl i ddiheintio eu dwylo
  • ystyried trefnu gweithgareddau ar gyfer grwpiau llai
  • caniatáu digon o awyr iach i os ydych yn cwrdd dan do
  • sicrhau bod pobl yn aros gartref os ydynt yn teimlo’n sâl

Yn ogystal â, ond nid yn lle’r uchod, mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chyngor yn ddiweddar ynghylch profion llif unffordd. Os ydych chi dros 11 oed, fe’ch anogir i gymryd profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos (bob 3 neu 4 diwrnod) os nad oes gennych symptomau COVID-19. Fe’ch anogir hefyd i gymryd prawf os ydych yn mynd i fod mewn sefyllfa risg uwch, gan gynnwys treulio amser mewn mannau prysur neu dan do, cyn i chi ymweld â phobl sydd â risg uwch o salwch difrifol o ganlyniad i COVID-19, ac os ydych yn teithio i rannau eraill o Gymru neu’r DU.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://llyw.cymru/prawf-COVID-19-cyflym-heb-symptomau

Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan i gadw Ceredigion yn ddiogel y Nadolig hwn. Os oes angen unrhyw gymorth neu ail farn arnoch, cysylltwch â ni (gen@cavo.org.uk  /01570 423 232).