Hoffech chi gymryd mwy o ran mewn bywyd cyhoeddus neu wleidyddol a chael effaith ar y penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi, eich cymunedau a’n cymdeithas? Ydych chi wedi cael llond bol ar beidio â chael eich cynrychioli, gydag ychydig o bobl fel chi yn y Senedd neu yn eich cyngor lleol?
Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Stonewall Cymru, Anabledd Cymru a Thîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid Cymru yn falch o gyhoeddi agoriad Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal, rhaglen fentora sy’n anelu at gynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.
Rydym yn recriwtio’r rownd gyntaf o fentorai ar gyfer y rhaglen fentora traws-gydraddoldeb arloesol hon!
Gallwch gyrchu’r holl fanylion yma
Gall unrhyw un a hoffai gael cefnogaeth bellach yn eu cais fynychu un o’n sesiwn galw heibio ar y dyddiadau canlynol:
• Dydd Sadwrn, 18fed Medi, 12-1pm
• Dydd Mercher, 22ain Medi, 7-8pm
Am wybodaeth bellach ac i gadw slot