Mae mis Rhagfyr wastad yn gyfnod prysur i lawer o gwmnïau, an gynnwys Cwmnïau dielw a Budd Cymunedol (CICs) wrth iddynt ffeilio cyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau cyn diwedd y mis.

Gan fod Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth y DU ar gyfer gweithio’n ddiogel yn ystod y coronafeirws (COVID-19), fe allai hyn olygu ei bod yn cymryd mwy o amser nag arfer i brosesu dogfennau papur a anfonir drwy’r post.

Mae eu gwasanaethau ar-lein ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos – ac mae yna wiriadau sy’n rhan o’r broses i’ch helpu i osgoi camgymeriadau.

Gall gymryd cyn lleied â 15 munud o’r dechrau i’r diwedd a byddwch yn gwybod bod eich holl gyfrifon wedi’u cyflwyno mewn da bryd. Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau eu bod wedi derbyn eich cyfrifon ac e-bost arall ar ôl iddynt eu cofrestru.

I ffeilio ar-lein, bydd angen eich cod dilysu cwmni arnoch. Os oes angen i chi ofyn am god newydd, dylech adael hyd at 5 diwrnod iddo gyrraedd swyddfa gofrestredig y cwmni.

Dylech ond anfon cyfrifon papur os na all eich cwmni ffeilio ar-lein. Mae angen i dimau Tŷ’r Cwmnïau archwilio a phrosesu cyfrifon sydd wedi’u ffeilio ar bapur gyda llaw yn ystod oriau agor y swyddfa.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK

(Erthygl o https://businesswales.gov.wales/)