Profiadau eithrio digidol

Mae’r defnydd o dechnoleg ddigidol ar draws cymdeithas a’n gwasanaethau cyhoeddus wedi cyflymu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn wedi creu rhwystrau i bobl hŷn nad ydynt ar-lein wrth geisio cael gafael ar wasanaethau a gwybodaeth, yn ogystal â mathau eraill o fwynderau.

Mae materion sy’n ymwneud ag eithrio digidol yn cael eu codi’n aml gyda’r Comisiynydd gan bobl hŷn, ac mae hi’n awyddus i ddysgu mwy am y mathau o broblemau a heriau y mae pobl yn eu hwynebu, gan gynnwys a yw hawliau pobl i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol yn cael eu cynnal.

Er enghraifft, mae nifer o bobl hŷn wedi dweud wrth y Comisiynydd nad ydynt wedi gallu cymryd rhan mewn apwyntiadau ar-lein / galwadau fideo gyda’u meddyg teulu ac nad ydynt wedi gallu trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb. Mae rhai eraill wedi sôn am yr anawsterau sy’n eu hwynebu wrth orfod defnyddio ap i dalu am bethau fel parcio’r car, sydd mewn rhai achosion wedi golygu nad ydyn nhw’n gallu mynd allan a gwneud y pethau sy’n bwysig.

Felly os ydych chi (neu berson hŷn rydych chi’n ei adnabod) wedi cael trafferth gwneud rhywbeth sy’n bwysig i chi oherwydd nad ydych chi ar-lein, neu oherwydd anawsterau wrth ddefnyddio technoleg ddigidol, hoffem glywed am eich profiadau ac am unrhyw broblemau mae hyn wedi’u creu. Er enghraifft pethau fel:

  • Trefnu apwyntiadau ar-lein e.e. apwyntiadau gyda meddyg teulu
  • Gwasanaethau / ymgynghoriadau iechyd
  • Dod o hyd i wybodaeth a chyngor
  • Lleisio eich barn
  • Materion eraill, e.e. taliadau / cyllid

Gallwch chi rannu eich profiadau yma – dim ond ychydig funudau y bydd hyn yn ei gymryd – neu, os byddai’n well gennych chi, gallwch ein ffonio ni ar 03442 640 670, anfon e-bost i gofyn@comisiynyddph.cymru, neu ysgrifennu atom ni:

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL

Diolch yn fawr am eich help!

Os oes angen cymorth arnoch chi gydag unrhyw un o’r materion rydych chi wedi’u profi, cofiwch y gallwch chi gysylltu â thîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd i gael help a chefnogaeth.